Chiloé

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Chiloé

Ynys yn y Cefnfor Tawel ger arfordir Chile yw Chiloé. Hi yw'r ynys fwyaf sy'n perthyn yn gyfangwbl i Chile. Ystyrir yr ynys yn rhan o'r Región de los Lagos.

Saif yr ynys o fewn 2 km i'r tir mawr yn y gogledd, a thua 50 km i'r dwyrain. Mae'n 180 km o hyd a 50 km o led, gydag arwynebedd o 9,322 km² a phoblogaeth o tua 150,000. Y prif drefi yw Castro, gyda phoblogaeth o 29,148 ac Ancud (27,292). Perthyna llawer o'r trigolion i grŵp ethnig yr Huilliche.