Chiang Kai-shek

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Chiang Kai-Shek)
Chiang Kai-shek
Ganwyd蔣瑞元 Edit this on Wikidata
31 Hydref 1887 Edit this on Wikidata
Xikou Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ebrill 1975 Edit this on Wikidata
Taipei Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Tsieina, Taiwan, Brenhinllin Qing Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Baoding Military Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Gweriniaeth Tsieina, Chairman of the National Government of China, Chairman of the National Government of China, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, chairperson, Arlywydd Gweithredwr yr Yuan, Arlywydd Gweriniaeth Tsieina, member of the 1st National Assembly of the Republic of China, member of the Constituent National Assembly Edit this on Wikidata
Cartre'r teuluYixing, Xuchang Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolKuomintang, Chinese Revolutionary Party Edit this on Wikidata
TadChiang Chao-Tsung Edit this on Wikidata
MamWang Caiyu Edit this on Wikidata
PriodMao Fumei, Yao Yecheng, Chen Jieru, Soong May-ling Edit this on Wikidata
PlantChiang Ching-Kuo, Chiang Wei-Kuo Edit this on Wikidata
PerthnasauChiang Wei-Kuo Edit this on Wikidata
Llinachfamily of Chiang Kai-shek Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Lleng Anrhydedd, Grand Cross of the Order of the Bath, Urdd y Llew Gwyn, Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Time Person of the Year, Urdd Teilyngdod Sifil, Urdd Brenhinol y Seraffim, Urdd Rajamitrabhorn, Urdd Leopold, Philippine Legion of Honor, Urdd y Cymylau Ffafriol, Silver Cross of the Virtuti Militari Edit this on Wikidata
llofnod
Chiang Kai-shek
Tsieineeg traddodiadol /
Tsieineeg syml /

Gwleidydd a chadfridog Tsieineaidd oedd Chiang Kai-shek (trawslythrennir hefyd Chiang Chieh-shih, Jiang Jieshi (蔣介石) neu Jiang Zhongzheng (蔣中正); 31 Hydref 18875 Ebrill 1975) a fu'n bennaeth ar lywodraeth Genedlaetholgar Gweriniaeth Tsieina, yn gyntaf yn nhir mawr Tsieina o 1928 i 1949 ac yna ar ynys Taiwan o 1949 hyd at ei farwolaeth ym 1975.

Ganed ef yn nhalaith Zhejiang yng nghyfnod brenhinllin Qing. Wedi iddo gael ei hyfforddi yn yr ysgol baratoi filwrol yn Tokyo a'r academi filwrol yn Baoding, ymunodd â lluoedd y Blaid Genedlaetholgar, dan arweiniad Sun Yat-sen. Fe'i penodwyd yn gadlywydd ar y fyddin chwyldroadol yn y 1920au, ac arweiniodd Alldaith y Gogledd yn erbyn y penaethiaid rhyfel. Yn 1925 fe olynodd Sun yn bennaeth ar y Blaid Genedlaetholgar. Ym 1927 cychwynnodd ar ymgyrch i gael gwared â chomiwnyddion o'r Blaid, a sefydlodd llywodraeth Genedlaetholgar yn Nanjing.

Yn y 1930au, bu Chiang a Wang Jingwei yn cystadlu dros reolaeth y llywodraeth Genedlaetholgar. Wynebodd fygythiad y Comiwnyddion, dan arweiniad Mao Zedong, yng nghefn gwlad Tsieina, a phenderfynodd Chiang ganolbwyntio ar y frwydr honno yn hytrach na pharatoi yn erbyn ehangiaeth Ymerodraeth Japan ym Manshwria. Yn sgil goresgyniad Tsieina gan Japan ym 1937, cytunwyd ar gadoediad rhwng y Cenedlaetholwyr a'r Comiwnyddion, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd arweiniodd Chiang y frwydr Tsieineaidd—gyda chefnogaeth Unol Daleithiau America—yn erbyn y Japaneaid.

Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn yr Ail Ryfel Byd, ail-gychwynnodd y rhyfel cartref ym 1945. Etholwyd Chiang yn Arlywydd Tsieina ym 1948, ond y flwyddyn wedyn bu'r lluoedd Comiwnyddol yn drech na'r Cenedlaetholwyr ac aeth Chiang a'i lywodraeth yn alltud i ynys Taiwan. Yno, sefydlodd Chiang unbennaeth wrth-gomiwnyddol yn groes i Weriniaeth Pobl Tsieina, ac hawliodd fod y Kuomintang yn llywodraeth gyfreithlon dros Tsieina oll. Cydnabuwyd Gweriniaeth Tsieina—hynny yw, Taiwan—yn swyddogol gan y nifer fwyaf o wledydd nes i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod Gweriniaeth Pobl Tsieina ym 1972. Yn ystod ei 26 mlynedd yn unben ar Daiwan, trodd Chiang yr ynys yn wlad ddatblygedig gydag economi gryf a chysylltiadau milwrol agos â'r Unol Daleithiau. Bu farw Chiang Kai-shek yn Taipei yn 87 oed, a fe'i olynwyd yn Arlywydd Taiwan gan ei fab Chiang Ching-kuo.

Bywyd cynnar (1887–1916)[golygu | golygu cod]

Ganed Chiang Kai-shek ar 31 Hydref 1887 yn Xikou, yn nhalaith Zhejiang, yn Ymerodraeth y Qing Fawr—sef yr enw ar Tsieina dan frenhinllin y Qing—yn fab i fasnachwr halen o'r enw Jiang Suan a'i drydedd wraig Wang Caiyu.[1] Perchenogion tir digon cefnog oedd y teulu Chiang, ac un o brif deuluoedd Xikou a'r cylch, er nad oeddynt yn rhan o'r bonedd gwledig.[2] Ym 1889, symudodd y teulu i dŷ masnach deulawr yn Stryd Wu Ling, Xikou.[1]

Derbyniodd Chiang Kai-shek addysg Tsieineaidd draddodiadol, ar sail Conffiwsiaeth, dan arweiniad tiwtoriaid a oedd wedi ennill gradd y shengyuan, sef yr isaf o arholiadau'r gwasanaeth sifil ymerodrol. Honnir i Chiang ddarllen y pedwar prif lyfr yn y traddodiad Conffiwsaidd—Daxue gan Zengzi, Zhongyong gan Zisi, Lun Yu gan Conffiwsiws a'i ddisgyblion, a Mengzi gan Mengzi—erbyn 9 oed.[3] Yn 14 oed, priododd Kai-shek, yn ôl dymuniad ei fam, â Mao Fumei—merch 19 oed o bentref Yandou—rhywbryd yn nhymor y gaeaf 1901–02. Symudodd Fumei i fyw gyda'r teulu Chiang yn eu tŷ masnach, ond ni chawsant yr un plentyn am wyth mlynedd arall, felly tybir iddynt beidio â chyflawni'r briodas am amser hir.[3]

Ym 1903, safodd—a methodd—Chiang yr arholiad newydd am y gwasanaeth sifil. Ni wnaeth hynny rwystro gobeithion ei fam, a aeth ati i gofrestru ei mab ag ysgol Gonffiwsaidd o'r enw Academi Mynydd y Ffenics yn Fenghua, ar gyrion dinas Ningbo. Yno, aeth i'r afael â chwricwlwm newydd, gan gynnwys gwersi Saesneg a mathemateg yn ogystal â'r ddysgeidiaeth Gonffiwsaidd glasurol.[3] Yn Chwefror 1903, trosglwyddodd Chiang i Academi'r Saeth Euraid yn Ningbo, a thua'r cyfnod hwn fe benderfynodd gychwyn ar yrfa filwrol. Yn Chwefror 1906, dychwelodd i Fenghua wrth drosglwyddo i Academi Afon y Ddraig, wedi ei ddenu gan yr athro Gu Qinglian a oedd yn annog ei fyfyrwyr i astudio'r cadfridogion ysgolheigaidd Wang Yangming a Zeng Guofan.[4] Ychydig fisoedd wedyn, yn 18 oed, datganodd Chiang ei fod am deithio i Japan i dderbyn hyffordiant milwrol yn Tokyo, a thorodd ei blethyn hir o wallt i ffwrdd, gweithred a oedd yn sicr o godi cywilydd ar ei deulu a'i gymdogion.[5]

Fe'i derbyniwyd i'r ysgol baratoi filwrol yn Tokyo, Japan, ym 1906, ac yno cafodd ei gefnogi gan un arall o Zhejiang, Chen Qimei, i gael ei ynydu i'r Tongmenghui, cudd-blaid chwyldroadol Sun Yat-sen a oedd yn gweithredu dros ddymchwel y Qing. Yn sgil dechrau Chwyldro Xinhai yn Hydref 1911, dychwelodd Chiang i Tsieina—yn Shanghai—i frwydro dan arweiniad Chen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Jay Taylor, The Generalissimo: Chiang Kai-shek and the Struggle for Modern China (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 2009), t. 11.
  2. Taylor, The Generalissimo (2009), tt. 10–11.
  3. 3.0 3.1 3.2 Taylor, The Generalissimo (2009), t. 12.
  4. Taylor, The Generalissimo (2009), t. 16.
  5. Taylor, The Generalissimo (2009), t. 17.