Chhachh

Oddi ar Wicipedia

Mae Chhachh yn rhanbarth ddaearyddol yng ngogledd Ardal Attock, yn y Punjab Pacistanaidd, a de-orllewin Hazara, yng ngogledd Pacistan. Gwastadedd yw Chhachh, sy'n ymestyn o fryniau Hazara-Gandhara i gyfeiriad y de i Kamra, ac o lannau dwyreiniol Afon Indus i'r tir torredig o gwmpas Lawrencepur. Chhachh yw'r tir mwyaf ffrwythlon yn ardal Rawalpindi. Lleolir pentref Hindko Nartopa yno.

Mae tua 80% o boblogaeth y rhanbarth yn bobl o dras Pashtun, ond erbyn heddiw prin y siaradant Pushto. Eu prif iaith yw Hindko, sy'n dafodiaith o'r iaith Punjabi Orllewinol. Mae gweddill y boblogaeth yn cynnwys pobl Jat, Rajput, Gujjar, Syed, Awan, a sawl llwyth brodorol arall.

Mae Chhachh yn adnabyddus ym Mhacistan am brydferthwch ei thirwedd ffrwythlon a'i diwylliant arbennig. Mae'n ddyfryn eang i'r fe o fynyddoedd y Karakoram a amgylchynir gan fryniau ar dair ochr ac afon Indus ar y lall.