Chetwode

Oddi ar Wicipedia
Chetwode
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Buckingham
Daearyddiaeth
SirSwydd Buckingham
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.96°N 1.066°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04001470 Edit this on Wikidata
Cod OSSP645295 Edit this on Wikidata
Cod postMK18 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Chetwode.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Buckingham. Saif tua 6 km (4 milltir) i'r gorllewin i Buckingham.

Mae'r elfen chet- yn yr enw yn dod o'r enw Brythoneg ar y pentref, sy'n gytras â Chymraeg Diweddar coed. Ychwanegwyd yr elfen wood o Hen Saesneg yn cyfleu'r un ystyr â'r enw gwreiddiol.[2] Mae'r enw cyfansawdd yn ymddangos yn Hen Saesneg fel Cetwuda. Erbyn Goresgyniad Normanaidd Lloegr, roedd manordy yn Chetwode, yn nwylo Esgob Odo o Bayeux a Robert de Thain oddi tano yn 1086 yn ôl Llyfr Dydd y Farn.[3] Sylfaenwyd priordy Awstinaidd yno yn 1244 gan Ralphe de Norwich. Datodwyd y priordy yn 1460 o achos ei dlodi, gan ddod yn rhan o Abaty Nutley yn Long Crendon gerllaw.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 173.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 14 Hydref 2022
  2. Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945), t. 6
  3. Chetwode yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  4. City Population; adalwyd 14 Hydref 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Buckingham. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato