Cherry Dee

Oddi ar Wicipedia
Cherry Dee
Ganwyd11 Mehefin 1987 Edit this on Wikidata
Bwcle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmodel Edit this on Wikidata
Taldra157 centimetr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Model Gymreig ydy Cherry Frampton (ganwyd 11 Mehefin 1987) sydd hefyd yn fodel tudalen 3 ac oedd yn defnyddio'r enw Cherry Dee. Ei henw llawn yw Cherry Daniella Andrea Frampton.

Ymddangosodd mewn cylchgronau fel Fast Car, Fit For Men, Nuts a phapurau newydd tabloid fel y The Sun, y Daily Star, a'r The Daily Sport.

Ar 10 Awst 2003 bu'n fodel fronnoeth yn y Daily Sport, dim ond dau fis wedi iddi hi droi'n 16 oed. Ar y pryd hi oedd mascot Tim pêl-droed Bwcle a chollodd ei swydd am wneud hynny![1]

Darlledwyd rhaglen ddogfen (gyda Gwynn Williams yn cyflwyno) ar yrfa Frampton ar raglen On the Edge ar gyfer HTV Wales ar 8 Ionawr 2004.[2]

Ar 1 Mai, 2004 newidiwyd y ddeddf Sexual Offences Act 2003, oedd yn codi'r oed ar gyfer ymddangos yn noeth mewn ffotograffiaeth o 16 i 18. Dileodd Frampton y ffotograffiau ohoni ei hun o'r we a rhoi stop ar fod yn fodel - nes oedd hi'n 18 oed, yna dechreuodd stripio eto. Ychydig cyn iddi droi'n 18 oed yswiriodd ei bronnau am £1m.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Trewyn, Hywel (14 Ebrill 2005). "I've got them covered – for a million quid". icNorthWales. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2009.
  2. imdb, adalwyd Mai 2016