Cherbourg-Octeville

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cherbourg)
Neidio i: llywio, chwilio
Basilique-trinité, Cherbourg

Tref a chymuned yng ngogledd Ffrainc, yn département Manche a rhanbarth Basse-Normandie, yw Cherbourg-Octeville, fel rheol Cherbourg ar lafar. Roedd poblogaeth y gymuned yn 42,318 yn 1999.

Saif Cherbourg-Octeville yng ngogledd Penrhyn Cotentin. Yn wreiddiol Cherbourg yn unig oedd yr enw. Daeth yn Cherbourg-Octeville wedi i Octeville ddod yn rhan o'r ddinas yn 2000. Mae gan lynges Ffrainc wersyll yma, a cheir gwasanaethau fferi i Rosslare yn Iwerddon gan Irish Ferries a Celtic Link ac i Poole yn Lloegr gan Brittany Ferries.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.