Cher (cantores)
Oddi ar Wicipedia
| Cher ar noson agoriadol Burlesque yn Llundain - llun gan Ian Smith | |
|---|---|
| Enwau eraill | Cherilyn LaPiere, Cher Bono |
| Ganwyd | 20 Mai, 1946 El Centro, Califfornia |
| Math | pop, Roc, Gwerin, Dawns, Disgo |
| Blynyddoedd | 1963 - presennol |
| Offeryn | Llais |
| Label | Imperial (1965–1968) Atlantic (1965–1967) Atco (1969) MCA (1971–1974) Kapp Records (1971-1972) Warner Bros. (1975–1977) Casablanca (1979–1980) Columbia (1982) Geffen (1987–1991) Warner Music UK (1995–2002) Warner Bros. (2003–presennol) |
| Artistiaid cysylltiedig | Sonny & Cher, Sonny Bono, Tina Turner, Christina Aguilera, Bette Midler |
| Gwefan | www.cher.com |
Cynhyrchydd recordiau, cantores a chyfansoddwraig caneuon pop o'r Unol Daleithiau yw Cher (ganed Cherilyn Sarkissian, 20 Mai, 1946). Yn ystod ei gyrfa, bu'n llwyddiannus ym myd cerddoriaeth, teledu a ffilm. Enillodd Oscar, Grammy, Emmy, tri Golden Globe a derbyniodd seren ar y Walk of Fame yn Hollywood.
Dechreuodd enwogrwydd Cher (Bono) ym 1965 fel aelod o'r ddeuawd pop / roc Sonny & Cher. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei hun fel artist recordio unigol, seren ym myd y teledu yn ystod y 1970au ac fel actores yn ystod y 1980au.