Charlotte's Web (nofel)
Oddi ar Wicipedia
Nofel i blant gan E. B. White ydy Charlotte's Web ("Gwe Charlotte") (1952). Cafodd y nofel ei chyhoeddi'n gyntaf gyda darluniau gan Garth Williams.
Yn y nofel ceir hanes mochyn o'r enw Wilbur a'i gyfeillgarwch â phry cop ysgubor o'r enw Charlotte. Pan fo Wilbur mewn perygl o gael ei ladd gan y ffermwr, mae Charlotte yn ysgrifennu negeseuon yn canmol Wilbur (fel "Some Pig") er mwyn darbwyllo'r ffermwr i adael iddo fyw.
Mae Charlotte's Web yn cael ei ystyried yn glasur i blant, ac yn addas ar gyfer oedolion.
Ceir gêm fideo'n seiliedig ar yr addasiad.