Charles Bukowski

Oddi ar Wicipedia
Charles Bukowski
GanwydHeinrich Karl Bukowski Edit this on Wikidata
16 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Andernach Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mawrth 1994 Edit this on Wikidata
San Pedro Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Los Angeles City College
  • Los Angeles High School
  • Susan Miller Dorsey High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, ysgrifennwr, sgriptiwr, bardd, nofelydd, newyddiadurwr, awdur, colofnydd, hunangofiannydd, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPost Office, Factotum, Hollywood, Ham on Rye, Pulp, Women, Notes of a Dirty Old Man, Erections, Ejaculations, Exhibitions, and General Tales of Ordinary Madness, South of No North, Hot Water Music, Tales of Ordinary Madness, The Most Beautiful Woman in Town, The Captain Is Out to Lunch and the Sailors Have Taken Over the Ship, Portions from a Wine-stained Notebook: Short Stories and Essays, More Notes of a Dirty Old Man Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAlbert Camus, Anton Chekhov, Antonin Artaud, Conrad Aiken, D. H. Lawrence, Du Fu, Ernest Hemingway, Ezra Pound, E. E. Cummings, Fyodor Dostoievski, Franz Kafka, Henry Miller, James Thurber, John Fante, Knut Hamsun, Li Bai, Louis-Ferdinand Céline, Robinson Jeffers, Sherwood Anderson Edit this on Wikidata
Mudiaddirty realism, transgressive fiction, Cenhedlaeth y Bitniciaid, Gwrthfarddoniaeth Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://bukowski.net Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd, nofelydd ac awdur straeon byrion Americanaidd oedd Henry Charles Bukowski, ganwyd Heinrich Karl Bukowski (16 Awst 19209 Mawrth 1994).[1] Roedd yn rhan o'r mudiadau realaeth frwnt[2] a ffuglen transgressive.

Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Andernach yn yr Almaen i filwr Americanaidd ac Almaenes.[3] Symudodd y tri i Baltimore ym 1923 ac yna Los Angeles ym 1930. Ysgrifennodd Bukowski am ei blentyndod a'i lencyndod yn ei lyfr lled-hunangofiannol Ham on Rye (1982). Llwyddodd i gyhoeddi ychydig o straeon byrion yn y 1940au, ond yna peidiodd ag ysgrifennu am y ddegawd nesaf, gan symud o swydd i swydd gan yfed yn drwm. Wedi iddo ddychwelyd i ysgrifennu ym 1956, cafodd ychydig o lwyddiant mewn cylchgronau, gan gynnwys y golofn "Notes of a Dirty Old Man" yn y Los Angeles Free Press. Yn y 1960au cynhyrchodd Bukowski sawl gyfrol o farddoniaeth ar gyfer y Black Sparrow Press. Ar ôl gweithio yn Swyddfa Bost yr Unol Daleithiau am 14 mlynedd, ysgrifennodd ei nofel gyntaf Post Office a gyhoeddwyd ym 1971.[1] Ysgrifennodd y sgript hunangofiannol ar gyfer y ffilm Barfly (1984), a gafodd ei phortreadu gan Mickey Rourke yn y ffilm honno. Ysgrifennodd y nofel Hollywood (1989) yn seiliedig ar ei brofiadau yn y diwydiant ffilmiau.[4]

Bywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Los Angeles a ddylanwadodd ar ei waith, gan fwyaf. Canolbwyntiodd ar fywydau yr Americanwr tlawd, gwaith y llenor, alcohol, perthnasau â menywod, a natur slafaidd y byd gwaith. Ysgrifennodd Bukowski filoedd o gerddi, cannoedd o straeon byrion a chwe nofel.

Roedd ganddo enw am fercheta ac am fod yn alcoholig. Bu farw Bukowski o liwcemia yn San Pedro, Califfornia ym 1994.[1][4]

Beirniadaeth a theyrngedau[golygu | golygu cod]

Clawr y record hir Bukowski gan Rheinallt H Rowlands, 1996

Ym 1986, galwodd y cylchgrawn Time Bukowski yn "fardd llawryfog bywyd y werin".[5] Yn ôl un beirniad yn The New Yorker roedd Bukowski yn "cyfuno addewid y bardd cyffesiadol o agosrwydd â'r hunanfeddiant yn y cnawd o arwr ffuglen bwlp",[6] gan ei wneud yn ffigur cwlt yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop.[1]

Yn ôl un beirniad, mae ffuglen Bukowski yn "ddisgrifiad manwl o ryw ffantasi wrywol tabŵ: y dyn di-briod penrhydd, slobaidd, gwrthgymdeithasol, ac yn hollol rydd". Delwedd oedd hon y ceisiai Bukowski ei gwireddu drwy ei ddarlleniadau cyhoeddus swnllyd o'i gerddi a'i ymddygiad anghwrtais.[7]

Rhyddhawyd cân a record hir o'r teitl Bukowski gan y band Cymraeg Rheinallt H Rowlands ym 1996 fel teyrnged i Charles Bukowski. Enwyd y LP yn un o recordiau'r flwyddyn ym mhapur newydd Llundain The Independent[8] Ffilmiwyd fideo 'r gân Bukowski gyda dawnswyr ball-room a char Cadillac i'r raglen deledu Fideo 9 [9]. Gan nad oedd modd cael ffotograff o'r gwir Charles Bukowski ar gyfer clawr y LP heb dalu hawlfraint, defnyddiwyd llun a oedd mewn ffrâm yn hongian ar wal tŷ tafarn y Glôb, Bangor a dynnwyd gan y landlord Gerallt Williams.[10]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

Casgliadau barddoniaeth[golygu | golygu cod]

  • Flower, Fist, and Bestial Wail (1960)
  • Poems and Drawings (1962)
  • Longshot Poems for Broke Players (1962)
  • Run with the Hunted (1962)
  • It Catches My Heart in Its Hands (1963)
  • Crucifix in a Deathhand (1965)
  • Cold Dogs in the Courtyard (1965)
  • The Genius of the Crowd (1966)
  • 2 by Bukowski (1967)
  • The Curtains Are Waving (1967)
  • At Terror Street and Agony Way (1968)
  • Poems Written Before Jumping Out of an 8 story Window (1968)
  • A Bukowski Sampler (1969)
  • The Days Run Away Like Wild Horses Over the Hills (1969)
  • Fire Station (1970)
  • Mockingbird Wish Me Luck (1972)
  • Me and Your Sometimes Love Poems (1972)
  • While the Music Played (1973)
  • Burning in Water, Drowning in Flame (1974)
  • Africa, Paris, Greece (1975)
  • Scarlet (1976)
  • Maybe Tomorrow (1977)
  • Legs, Hips and Behind (1978)
  • Love Is a Dog from Hell (1977)
  • Play the Piano Drunk Like a Percussion Instrument Until the Fingers Begin to Bleed a Bit (1979)
  • Dangling in the Tournefortia (1982)
  • War All the Time (1984)
  • Horses Don't Bet on People & Neither Do I (1984)
  • You Get So Alone at Times That It Just Makes Sense (1986)
  • The Roominghouse Madrigals (1988)
  • Beauti-ful & Other Long Poems (1988)
  • Septuagenarian Stew: Stories & Poems (1990)
  • People Poems (1991)
  • The Last Night of the Earth Poems (1992)
  • Betting on the Muse: Poems and Stories (1996)
  • Bone Palace Ballet (1998)
  • What Matters Most Is How Well You Walk Through the Fire. (1999)
  • Open All Night (2000)
  • The Night Torn Mad with Footsteps (2001)
  • Sifting Through the Madness for the Word, the Line, the Way (2003)
  • As Buddha smiles (2003)
  • The Flash of the Lightning Behind the Mountain (2004)
  • Slouching Toward Nirvana (2005)
  • Come on In! (2006)
  • The People Look Like Flowers at Last (2007)
  • The Pleasures of the Damned (2007)
  • The Continual Condition (2009)

Casgliadau straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • Confessions of a Man Insane Enough to Live with Beasts (1965)
  • All the Assholes in the World and Mine (1966)
  • Notes of a Dirty Old Man (1969)
  • Erections, Ejaculations, Exhibitions, and General Tales of Ordinary Madness (1972)
  • South of No North (1973)
  • Hot Water Music (1983)
  • Tales of Ordinary Madness (1983)
  • The Most Beautiful Woman in Town (1983)
  • Portions from a Wine-stained Notebook: Short Stories and Essays (2008)
  • Absence of the Hero (2010)
  • More Notes of a Dirty Old Man (2011)

Llyfrau ffeithiol[golygu | golygu cod]

  • Shakespeare Never Did This (1979); estynedig (1995)
  • The Bukowski/Purdy Letters (1983)
  • Screams from the Balcony: Selected Letters (1993)
  • Living on Luck: Selected Letters, vol. 2 (1995)
  • The Captain Is Out to Lunch and the Sailors Have Taken Over the Ship (1998)
  • Reach for the Sun: Selected Letters, vol. 3 (1999)
  • Beerspit Night and Cursing: The Correspondense of Charles Bukowski and Sheri Martinelli (2001)

Sgriptiau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Hoare, Philip (11 Awst 2012). Obituary: Charles Bukowski. The Independent.
  2. (Saesneg) Charles Bukowski Criticism. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
  3. Miles, Barry. Charles Bukowski (Random House, 2009). ISBN 978-0-7535-2159-5
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Grimes, William (11 Mawrth 1994). Charles Bukowski Is Dead at 73; Poet Whose Subject Was Excess. The New York Times. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
  5. (Saesneg) Iyer, Pico (16 Mehefin 1986). Celebrities Who Travel Well. Time. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
  6. (Saesneg) Kirsch, Adam (14 Mawrth 2005). Smashed: The pulp poetry of Charles Bukowski. The New Yorker. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
  7. (Saesneg) Greenberg, Michael (1994). Pulp, Charles Bukowski. Boston Review. Adalwyd ar 11 Awst 2012.
  8. http://www.independent.co.uk/arts-entertainment/freak-out-1360021.html
  9. http://www.youtube.com/watch?v=q6kbkef95uw
  10. https://www.flickr.com/photos/24785384@N02/2524837559/