Chares o Lindos
Oddi ar Wicipedia
Cerflunydd Groegaidd a anwyd ar ynys Rhodes oedd Chares of Lindos (ganed 280 CC). Bu'n un o fyfyrwyr Lysippus.[1] Adeiladodd Chares Colossus Rhodes yn 282 CC, a oedd yn gerflun efydd enfawr i dduw yr haul a duw nawdd Rhodes, Helios.[2] Adeiladwyd y cerflun i gofio am fuddugoliaeth Rhodes dros Macedoniaid a ymosododd arnynt yn 305 CC, o dan arweiniad Demetrius I, mab Antigonus, cadfridog i Alexander the Great. Priodolir pen anferthol a ddaethpwyd i Rufain ac a gysegrwyd gan P. Lentulus Spinther i Chares ar Fryn Capitoline, yn 57 CC (Pliny, Natural History XXXIV.18)).[3]
Mae Colosws Rhodes yn un o Saith Rhyfeddod yr Henfyd,[4] ac fe'i ystyriwyd yn un o weithiau gorau Chares tan iddo gael ei ddinistrio gan ddaeargryn yn 226 CC.[5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Arts, Briefly Lawrence Van Gelder. nytimes.com Adlawyd ar 2007-12-19
- ↑ Information about the Colossus of Rhodes Adalwyd ar 2007-12-19
- ↑ The Ancient Library 2008-05-16
- ↑ The Colossus of Rhodes 2007-12-19
- ↑ Colossus of Rhodes 2007-12-19