Chandra Wickramasinghe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae'r Athro Nalin Chandra Wickramasinghe (ganwyd 20 Ionawr 1939) yn seryddwr a mathemategydd, a aned yn Colombo, Sri Lanka.

Ers dechrau'r 1970au mae Wickramasinghe wedi byw a gweithio yng Nghymru fel athro Mathemateg Gymhwysedig a Seryddiaeth yn Prifysgol Caerdydd.

Daeth i amlygrwydd yn y 1960au pan ddatblygodd ddamcaniaeth ddadleuol Panspermia ar y cŷd a'r seryddwr adnabyddus Fred Hoyle (awdwr y Ddamcaniaeth Cyflwr Cyson). Ei brif feysydd ymchwil ers rhai blynyddoedd yw'r defnydd o seryddiaeth isgoch i astudio mater rhyngseryddol.


Scientist.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.