Châteaudun
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn département Eure-et-Loir yng ngogledd Ffrainc yw Châteaudun. Mae'n sous-préfecture o Eure-et-Loir. Lleolir Châteaudun tua 45 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Orléans, a thua 50 cilomedr i'r de-orllewin o Chartres, ar lan afon Loir, un o lednentydd Afon Sarthe. Mae'r Château de Châteaudun yn adnabyddus gan mai hwn yw'r château cyntaf ar y ffordd allan o Baris ar y ffordd i Ddyffryn Loire.
Enwogion [golygu]
Ganwyd yr enwogion canlynol yn Châteaudun:
- Pierre Guédron (1570–1620), cyfansoddwr
- Nicolas Chaperon (1612–1656) Peintiwr
- Romain Feillu (1984) seiclwr
- Brice Feillu (1985) seiclwr
Gefeilldrefi [golygu]
Schweinfurt
Cap-de-la-Madeleine (cyfunwyd yn ran o Ddinas Trois-Rivières yn 2002)
Arklow
Marchena
Kroměříž
Stranraer
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol (Ffrangeg)
- Swyddfa Wybodaeth (Ffangeg a Saesneg)