Château-Thierry

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Château Thierry: y Tŵr Balhan a rhan o'r muriau.

Dinas a chymuned yn Ffrainc yw Château-Thierry, sy'n un o sous-préfectures département Aisne. Fe'i lleolir 90 km (56 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Baris. Mae'n gorwedd ar lan Afon Marne. Mae'n ganolfan i'r arrondissement o'r un enw hefyd.

Enwir y ddinas ar ôl y castell sy'n ei dominyddu, sef y Château de Château-Thierry (11eg ganrif). Ymladdwyd Brwydr Château-Thierry yn y cyffiniau ym mis Mai 1918 fel rhan o gyrch mawr gan luoedd yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.