Canu gwlad

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cerddoriaeth gwlad)
Canu gwlad
Enghraifft o'r canlynolgenre gerddorol, radio format Edit this on Wikidata
Mathcerddoriaeth boblogaidd, music of North America Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1920 Edit this on Wikidata
Enw brodorolCountry music Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Math o gerddoriaeth boblogaidd yw canu gwlad sydd â'i wreiddiau yn nhraddodiad baledi hillbilly mynyddoedd yr Appalachians yn yr Unol Daleithiau. Dylanwad arall oedd y caneuon cowboi (felly'r enw Saesneg Country and Western, er mai Country Music neu Country yw'r enw mwya ffasiynol heddiw). Mae gan ganu gwlad bwyslais ar leisiau mewn cytgord a geiriau sy'n adlewyrchu profiad y werin gyffredin. Yn aml mae'n sentimental iawn.

Sonnir heddiw am 'Ganu Gwlad Newydd' neu Progressive Country hefyd, wrth i genhedlaeth newydd chwilio am burdeb gwreiddiol y canu traddodiadol ar y naill law ac ar yr un pryd arbrofi efo thechnegau mwy diweddar, o fyd roc er enghraifft.

Mae cerddorion canu gwlad yr "hen ysgol" yn cynnwys Dolly Parton a Linda Ronstadt ac, i raddau, Emmylou Harris. Mae rhai o'r grwpiau diweddar yn cynnwys Alison Krauss ac Union Station, sydd wedi gwneud albymau gyda'i gilydd, a'r Dixie Chicks â'i harmonis anhygoel.

Canu Gwlad a Chymru[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru mae'n debyg mai y cyntaf i ganu y math hyn o gerddoriaeth oedd Aled a Reg ac yn ddiweddrach Hogia Llandegai, Doreen Lewis, Traed Wadin, a Tony ac Aloma. Mae canu gwlad yn dal yn boblogaidd iawn yng Nghymru gyda chantorion fel John ac Alun, Wil Tân, Alister James, ac yn ddiweddar iawn Meinir Ann.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.