Ceitho

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Abad a sant oedd Ceitho (fl. 6ed ganrif). Yn ôl traddodiad roedd yn un o bum mab Cynyr Farfdrwch o Gynwyl Gaio, un o ddisgynyddion Cunedda Wledig. Gyda'i frodyr Gwynno, Gwynoro, Celynin a Gwyn, daeth yn sant; mae enw tref Llanpumsaint yn coffau'r pum sant hyn.[1]

Mae Ceitho yn nawddsant plwyf Llangeitho, Ceredigion, ac mae'n debyg ei bod wedi sefydlu clas neu gell meudwy yno. Ceir Ffynnon Ceitho ger pentref Llangeitho, sydd i fod yn oer yn yr haf ond yn gynnes yn y gaeaf.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).