Cefn Hergest

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn bychan ar Gefn Hergest.

Cefnen ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Cefn Hergest (Saesneg: Hergest Ridge). Mae'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt, Powys (Cymru) a Henffordd, Swydd Henffordd (Lloegr). Gorwedd rhan uchaf y gefnen yn Swydd Henffordd (426 m - 1,398 tr).

Mae Llwybr Clawdd Offa yn dilyn Cefn Hergest, er nad ydy Clawdd Offa ei hun ar y bryn.

Enwir plwyf Hergest yn Swydd Henffordd ar ôl y gefnen, plwyf sy'n cynnwys pentref bychain Lower Hergest ac Upper Hergest. Yma y ceir plasdy Hergest. Roedd y rhan hon o Swydd Henffordd yn ardal Gymraeg iawn yn yr Oesodd Canol. Roedd teulu Hergest yn noddwyr amlwg i feirdd Cymraeg a llenyddiaeth Gymraeg ac ysgrifenwyd dwy o lawysgrifau mawr yr Oesoedd Canol yno, sef Llyfr Coch Hergest, sy'n cynnwys testunau'r Mabinogi a thestunau Cymraeg eraill, a Llyfr Gwyn Hergest, a ysgrifenwyd yn rhannol gan y bardd Lewys Glyn Cothi.

Ysbrydolwyd y cerddor Mike Oldfield gan dirwedd Cefn Hergest i gyfansoddi'r albwm thematig dylanwadol Hergest Ridge (1974).