Mynydd Cefnamwlch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cefn Amwlch)
Neidio i: llywio, chwilio
Ar gopa Mynydd Cefnamwlch.
Coetan Arthur, Cefnamwlch.

Bryn yn Llŷn, Gwynedd, yw Mynydd Cefnamwlch. Saif rhwng pentrefi Sarn Mellteyrn, i'r de, a Tudweiliog, i'r gogledd. Mae bwlch yn gorwedd rhyngddo a Carn Fadryn, i'r dwyrain. Llifa Afon Soch, sy'n tarddu wrth waelod ei lethrau dwyreiniol, heibio i'r bryn ar ei ffordd i'r môr yn Abersoch.

Bryn 182m o uchder ydyw o ddifrif, ond 'Mynydd Cefnamwlch' yw ei enw diolch i barch bobl lleol amdano. Saif tua dwy filltir o lannau ogleddol Llŷn, gyda'r brif ffordd rhwng Tudweiliog a Llangwnnadl (B4417, ffordd eilaidd) ar ei hochr ogleddol. Tua hanner milltir ar hyd y ffordd o droed Mynydd Cefnamwlch tuag at Llangwnnadl ceir troad i lawr i'r dde tuag at blasdy Plas yn Mhenllech a'i heglwys hynafol. Yn fforchio o'r B4417 ym Meudu Bigin a throi i gyfeiriad y dwyrain mae ffordd gul tuag at Sarn Mellteyrn, Bryncroes a Botwnnog.

Wrth ddod allan o'r coed sydd ar naill ochr i'r B4417 fe welir Coetan Arthur ar y dde mewn cae cyfagos, enghraifft dda o gromlech o'r Oes Neolithig (rhwng 2000 i 4000CC) ac mae'n bosib cerdded ato ac edrych draw ar yr olygfa tuag at Garn Fadryn, Eryri a Môn. Cyn cyrraedd pentref Sarn Mellteyrn mae olion eglwys San Pedr ar y chwith; fe'i dymchwelwyd yn y 1990au.

Gorwedd ystad Cefnamlwch i'r gogledd o'r bryn. Ceir siambr gladdu o Oes yr Efydd ar ei lethrau gogleddol, ger y B4417.