Ceffyl Gwyn Uffington

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ceffyl Gwyn Uffington o'r awyr

Mae Ceffyl Gwyn Uffington yn ffigwr 374 troedfedd (110 m) o hyd o geffyl gwyn wedi'i dorri o'r fawn ar lethr bryn Castell Uffington, bryngaer o Oes yr Haearn ger Y Ridgeway, yn Swydd Rydychen (Berkshire cynt), de Lloegr. Dyma'r unig geffyl gwyn yn yr ardal sy'n sylweddol o hen; mae'r eraill yn gymharol fodern, wedi'u creu dim mwy na dwy neu dair canrif yn ôl. Fe'i leolir tua 5 milltir i'r de o dref Faringdon a thua'r un pellder i'r gorllewin o Wantage. Enwir y bryn y ceir y Ceffyl arno yn Fryn y Ceffyl Gwyn (White Horse Hill) a'r bryniau o gwmpas yn Fryniau'r Ceffyl Gwyn (White Horse Hills).

Mae rhai ysgolheigion yn gweld cysylltiad rhwng y Ceffyl Gwyn a'r dduwies Geltaidd Epona (Rhiannon ym Mhedair Cainc y Mabinogi). Efallai fod adlais o addoliad y dduwies yn nhraddodiad Y Fari Lwyd hefyd.

Oxfordshire coat of arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Rydychen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill