Cedrwydden

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dail neu nodwyddau coed Cedrwydd Atlas

Coeden fytholwyrdd yw'r gedrwydden (lluosog: cedrwydd) (Saesneg: Cedar) sy'n aelod o deulu'r Pinaceae ac yn perthyn yn agos iawn i'r pinwydd. Mynyddoedd Himalaia oedd eu tiriogaeth frodorol ac ardal y Môr Canoldir a gallant dyfu ar uchder o 1,500–3200 metr o lefel y môr. Tarddiad y gair yw'r Roeg: kedros.

Disgrifiad[golygu]

Gall coed cedrwydd dyfu i uchder o 30–40 metr a cheir arogl sbeis ar y pren. Yn aml, mae'r canghennau'n llydan a'r rhisgl wedi cracio. Mae'r dail ar ffurf nodwyddau 6–60 mm o ran hyd. Mae eu hadau o fewn cônau sydd ('moch coed' fel y'u gelwir yng ngogledd Cymru), a rhwng 6–12 cm o ran hyd a 3–8 cm o led.

Meddygaeth amgen[golygu]

Defnyddir rhannau o'r gedrwydden yn gymorth i leddfu symptomau annwyd, dolur gwddw a phlorod.

Mathau eraill[golygu]

  • Cedrwydden Ariannaidd (Saesneg: Mount Atlas neu Silvery Cedar)
  • Cedrwydden Goch (Saesneg: Western red cedar)
  • Cedrwydden Wen (Saesneg: white cedar)
  • Cedrwydden Libanus (Saesneg: cedar of Lebanon)
  • Cedrwydden Ffug (Saesneg: bastard cedar)