Cats Protection

Oddi ar Wicipedia
Cats Protection
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, animal rescue group Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu16 Mai 1927 Edit this on Wikidata
Gweithwyr678, 792, 904, 996, 1,037 Edit this on Wikidata
Pencadlysy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cats.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Elusen Prydeinig ydy Cats Protection (Gwarchod Cathod), The Cats Protection League (Cynghrair Gwarchod Cathod) oedd ei henw gynt, sy'n ymroddedig at achub ac ail-gartrefu cathod di-gartref a chathod nad yw eu perchnogion eu eisiau. Sefydlwyd ar 16 Mai 1927 mewn cyfarfod yn Neuadd Caxton yn Llundain. Byrhawyd yr enw yn 1998.

Canllawiau[golygu | golygu cod]

  • I achub cathod di-gartref a chathod nad yw eu perchnogion eu eisiau au ail-cartrefu pan yn bosib
  • I annog dirywio cathod sydd ddim eu hangen ar gyfer atgenhedlu
  • I hysbysu'r cyhoedd ynglŷn â gofal cathod

Gweithrediad[golygu | golygu cod]

Erbyn 2005, roedd 29 lloches a 260 o ganghenni gwirfoddol wedi eu lleoli ogwmpas Y Deyrnas Unedig. Ar y cyd â ail-gartrefu cathod mae'r elusen yn rhedeg cynllun dirywio ar gyfer perchnogion ar gyllid cyfyng, a llinell ffôn argyfwng cenedlaethol. Mae'n hefyd yn bwydo a cadw golwg ar trefedigaethau cathod hanner gwyllt yn ogystal â dal, dirywio ac ail-ryddhau cathod hanner-gwyllt pan yn bosib. Mae sawl cyn-weithiwr wedi ennill achos llys yn erbyn Cats Protection oherwydd ymddiswyddo annheg.

Canghenni gwirfoddol[golygu | golygu cod]

Mae'r elusen yn gweithio mawen dau ffordd: Canghenni wedi eu rhedeg gan wirfoddolwyr a canghenni lloches. Y prif wahaniaeth ydy mai pobl â lle sbâr mewn ystafell neu ardd ar gyfer lloc neu ddau yw'r canghnnau gwirfoddol. Yn hytrach na ymweld a lloches ymroddedig, mae'r person sydd eisiau ail-gartrefu cath yn ymweld â gartref y gwirfoddolwr. Mae'r gwirfoddolwyr yn derbyn ychydig o arian oddiar pencadlys yr elusen ond does dim aelodau staff yn cael eu cyflogi.

Llochesi[golygu | golygu cod]

Mae gan y canghennau llochesi ymroddedig, sawl lloches o amrywiaeth o feintiau ac mae'n yn cyflogi staff yn ogystal â gwirfoddolwyr. Dyma lle fydd y rhanfwyaf or cyhoedd yn ymweld os ydynt am ail-gartrefu cath. Yn ogystal â'r lloches, mae sawl coleddwr cathod yn nhîm y canghennau sy'n gewithio trwy gydol yr amser i ofalu am gathod au cael mewn cyflwr digon da i'w ail-cartrefu. Unwaith mae'r gath yn ddigod da i gael ei ail-gartrefu mae'n cael ei symyd i mewn i'r lloches. Yn ystod adegau prysur megis tymor cathod bach, gall person sydd eisiau mabwysiadu cath ymweld a gartref y coleddwr ac efallai neilltuo cath fach o'u dewis, bydd y pobl rhain yn dal yn gorfod cael ymweliad iw cartref yr un peth ac os byddent yn nôl y cath o'r lloches. Ond yn wahanol i ganghennau gwirfoddol, nid yw'r llochesi'n derbyn arian gan y pencadlys; rhaid rhoi unrhyw rodd ariannol i'r canghen er mwyn helpu cathod yn yr ardal penodol hwnnw. Mae canghen lloches yn gwbl hunan-ariannu. Mae sawl lloches yn cynnig mabwysiadu lloch, ac gall person gael eu henw ar blac ar y lloch am swm misol. Unigolion sy'n gwneud hyn fel arfer, ond mae rhai cwmniau yn gwneud hyn hefyd, yn ogystal â phlac, ceir y rhain sy'n mabwysiadu lloch gael newyddion rheolaidd gan y ganghen. Mae cathod yn cael eu profi ar gyfer afiechyd Felv ac Fiv cyn cael eu derbyn i ofal y llochesi. Os darganfyddir cath i ddioddef o un o'r firwsiau rhain, gall eu rhoi i lawr os nag oes lle iw gael mewn uned sy'n arbennigo mewn FIV (mae gan yrhai llochesi yr unedau rhain), er fod yr elusen yn falch o'i polisi o beidio a rhoi cathod iach i lawr.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]