Catrin Finch
Telynores yn wreiddiol o Lanon, Ceredigion yw Catrin Finch (ganwyd ym 1980).
Cafodd ei gwersi telyn cyntaf gan Elinor Bennett pan nad oedd ond wyth oed. Bu yn Ysgol Purcell yn Llundain pan oedd yn 16 oed, gan astudio dan law Skaila Kanga, ac aeth ymlaen wedyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Enillodd Gystadleuaeth Telyn Ryngwladol Lily Laskine yn 1999 un o brif wobrau'r byd i'r delyn, ac enillodd Gyfweliadau Rhyngwladol Artistiaid Cyngerdd IfIfanc yn Efrog Newydd. Mae wedi teithio yn eang yn yr Unol Daleithiau.
Mae wedi gweithio gyda Karl Jenkins, Bryn Terfel, James Galway Julian Lloyd-Webber a Katherine Jenkins
Fe'i penodwyd yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2000. Yn 2003, priododd â Hywel Wigley, mab Dafydd Wigley ac Elinor Bennett.