Cato yr Ieuengaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cato yr Ieuengaf yn darllen y Phaedon gan Platon cyn ei ladd ei hun.

Gwleidydd Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Uticensis, a elwir yn Cato yr Ieuengaf (Lladin: Cato Minor), (95 CC - 46 CC. Roedd yn un o wrthwynebwyr amlycaf Iŵl Cesar.

Roedd Cato yn or-ŵyr i Cato yr Hynaf. Ganed ef yn Rhufain, a chollodd ei rieni yn ieuanc. Magwyd ef gan ei ewythr, Marcus Livius Drusus. Yn 72 CC, ymladdodd fel gwirfoddolwr yn y rhyfel yn erbyn Spartacus. Daeth yn Dribwn milwrol ym Macedonia yn 67 CC, am ymddengys iddo arwain lleng am gyfnod. Etholwyd ef i swydd Quaestor yn 65 CC. Dadleuodd yn y Senedd o blaid y gosb eithaf i ddilynwyr Catilina yn 63 CC.

Daeth yn ddylanwadol iawn yn y Senedd, ac yn arweinydd plaid yr Optimaten. Daeth i wrthdrawiad a Gnaeus Pompeius Magnus, ac yn fuan wedyn a Iŵl Cesar. Gwrthwynebodd gais Cesar yn 60 CC i gael ceisio am etholiad fel Conswl heb groesi'r ffîn i mewn i ddinas Rhufain (y pomerium). Bu ganddo ran amlwg yn y rhyfel cartref a ddatblygodd yn Rhufain o dechrau 49 CC. Wedi buddugoliaeth Cesar, ffôdd Cato i Utica yng ngogledd Affrica, lle lladdodd ei hun yn hytrach nag ildio.