Castleton, Swydd Derby

Oddi ar Wicipedia
Castleton
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref High Peak
Daearyddiaeth
Ardal warchodolPeak District National Park Edit this on Wikidata
SirSwydd Derby
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaEdale, Peak Forest, Bradwell, Swydd Derby, Hope Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.344°N 1.775°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04002842 Edit this on Wikidata
Cod postS33 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r un enw gweler Castleton.

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Derby, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Castleton.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref High Peak.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 642.[2]

Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod]

  • Castell Peveril
  • Eglwys Sant Edmwnd
  • Gwesty'r Castell

Enwogion[golygu | golygu cod]

Asedau daearegol[golygu | golygu cod]

Ym mhentref Castleton, yn Ardal y Copaon yn Swydd Derby, fe welwch amryw o siopau gemwaith yn gwerthu’r Blue John. Mae i’r mwyn yma rhyw wawr glas a melyn o'i gwmpas ac enw’r Ffrancwyr amdano yw Bleu Jaune yn golygu glas melyn, ac fe aeth hwn yn Blue John, math o felspar. Calsiwm fflworid yw'r Blue John 'ma, (CaF2) a chredir mai haen o olew wedi mynd rhwng y crisialau sydd wedi rhoi'r lliw arbennig iddo. Mae'n fwyn bregus iawn ac mae hi'n anodd cael darnau da ohono - yn ôl y mwynwr dim ond chwarter o beth maen nhw yn ei gloddio sydd yn ddefnyddiol. Darganfuwyd un ffordd o allu gweithio arno drwy ei socian mewn resin, a thrwy hyn allu gwneud llestr ohono. Roedd powlen tua 2 fodfedd ar draws yn gwerthu am £300.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Derby. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato