Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr

Oddi ar Wicipedia
Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr
Mathcastell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1106 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPen y Bont Edit this on Wikidata
SirPen-y-bont ar Ogwr
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr48.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.508861°N 3.583252°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM063 Edit this on Wikidata

Castell Normanaidd yn ne Cymru yw'r Castell Newydd, a godwyd ar fryncyn uwchlaw tref Pen-y-bont ar Ogwr. I'r Gogledd-orllewin, roedd arglwyddiaeth Gymreig Afan ac un o'r rhesymau dros godi'r castell oedd gwarchod y ffin a cheisio rheoli arglwyddi Afan. Adeilion sydd yno, bellach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Sarah Murphy (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[1][2]

Adfeilion Castell Newydd

Hanes[golygu | golygu cod]

Codwyd y castell yn 1106 gan y barwn Normanaidd Robert Fitzhamon ar ran William de Londres a'r castell hwn yw'r fan mwyaf gorllewinol yn ei ymgais i oresgyn De Cymru. Mae'n un o dri chastell yn yr ardal yr adeg hon ynghyd â Chastel Coety a Chastell Ogwr. Yn 1189 trosglwyddwyd perchnogaeth y castell i Morgan ap Caradog ac yna yn c1208, i'w fab Lleison.[3] Ar farwolaeth Lleision (tua 1214) trosglwyddwyd y castell i feddiant Isabel, gwraig cyntaf Brenin Ioan o Loegr.[4] Yn 1217 aeth i ddwylo Gilbert Fitz Richard ac yn yr un flwyddyn fe'i trosgwyddwyd i Gilbert de Turberville.

Dros y canrifoedd, bu perchnogaeth y castell yn nwylo'r teuluoedd Berkerolle, Gamage ac yna fe'i prynnwyd gan Samuel Edwin o "Lanmihangel Place" ac yna'n rhan o Ystâd Dunraven.

Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Morgan ap Caradog ap Iestyn". llgc.org.uk. Cyrchwyd 27 Hydref 2012.
  4. Salter (2002), tud.88