Castell Ystrad Peithyll

Oddi ar Wicipedia
Castell Ystrad Peithyll
Mathcastell, mwnt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.423214°N 3.98205°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD098 Edit this on Wikidata

Un o gestyll y Normaniaid yng Nghymru oedd Castell Ystrad Peithyll neu Castell Peithyll. Lleolir ei adfeilion mewn coedwig ger Capel Dewi, tua 6 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, Ceredigion.[1]

Codwyd y castell mwnt a beili hwn ar lan afon Peithyll, un o ledneintiau afon Clarach, yn y flwyddyn 1110 neu'n fuan ar ôl hynny wrth i'r arglwydd Normanaidd Gilbert Fitz Richard (un o sawl a elwir yn Gilbert de Clare hefyd) oresgyn rhan helaeth o Geredigion.[2]

Yn 1114, pan fu gŵr o'r enw Ralph (neu Rargo) yn gwnstabl y castell, ymosodwyd arno gan y tywysog Gruffudd ap Rhys o Ddeheubarth. Cofnodir y digwyddiad ym Mrut y Tywysogion:

A chylchynu a orugant gastell Rawlf, swyddwr Gilbert a oedd yn y lle a elwir Ystrad Pychyll (Ystrad Peithyll) ac ymladd ag ef a gorfod arno a lladd llawer ynddo a'i losgi ynteu o hyd nos.[3]

Rywbryd ar ôl hynny rhaid bod y castell wedi cael ei ailadeiladu oherwydd cofnodir iddo gael ei losgi yn 1136 gan Owain ap Gruffudd a'i frawd Cadwaladr.[4] Ciliodd y Normaniaid o Geredigion am gyfnod hir ar ôl ymgyrch y tywysogion hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lleoliad y castell ar y map Arolwg Ordnans[dolen marw]
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 39.
  3. Brut y Tywysogyon. Peniarth MS 20, gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941), tud. 69a. Diweddariad.
  4. Afan ab Alun, Cestyll Ceredigion (Gwasg Carreg Gwalch, 1991), tud. 26.