Castell Cas-wis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Castell Wiston)
Castell Cas-wis
Mathcastell mwnt a beili, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 g (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCas-wis Edit this on Wikidata
SirPen-y-bont ar Ogwr
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr112.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.826785°N 4.871144°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE077 Edit this on Wikidata

Castell mwnt a beili yw Castell Cas-wis, a godwyd yng nghyfnod y Normaniaid yng Nghymru gan un o Ffleminiaid de Penfro o'r enw Wizo (Cymreigiad: 'Wis') cyn 1130, wedi iddo gipio rhannau halaeth o gantref Daugleddau. Saif ei adfeilion ar gwr pentref Cas-wis yn Sir Benfro.

Ymosodwyd ar y castell gan fyddin gynghreiriol o wŷr Deheubarth a milwyr William fitz Gerald, ewythr Gerallt Gymro, yn 1147.[1] Dinistriwyd y castell gan Llywelyn Fawr yn 1220, ond ail-adeiladwyd ef. Daeth yn bencadlys arglwyddiaeth Normanaidd Cas-wis.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. R. R. Davies, The Age of Conquest (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 47.
  2. R. R. Davies, The Age of Conquest (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 172.