Castell Powys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Coordinates: 52°39′05″N 3°09′29″W / 52.65139°N 3.15806°W / 52.65139; -3.15806

Castell Powys o'r de, gan ddangos y gerddi enwog.

Saif Castell Powys neu weithiau Castell Coch, sy'n gastell canoloesol, ger tref y Trallwng, ym Mhowys. Mae'n dyddio'n ôl i tua 1266 pan newidiodd Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn (hefyd Owen de la Pole; (c. 1257 – c. 1293)), yr olaf o Dywysogion Powys ei deyrngarwch i frenin Lloegr.

Mae'n gastell i Iarll Powys a bellach ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Caiff y gerddi Baróc eu cydnabod fel rhai o'r enghreifftiau gorau yng ngwledydd Prydain o fath Baróc. Maent yn cynnwys gerddi ffurfiol, parc ceirw, llawer o goed afal a thwnel o goed grawnwin.

Dywedir i'r Dywysoges Victoria ymweld â Chastell Powys gyda'i mam ym 1832.

Rhai o'r prif atyniadau[golygu]

Amgueddfa Syr Clive[golygu]

Mae'r amgueddfa hon yn cynnwys llawer iawn o arteffactau diddorol o India. Casglodd Edward Clive (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i "Herbert") yn y 18fed ganrif, lawer o luniau enwog, dodrefn drudfawr o Ffrainc a Lloegr a llawer iawn o ddodrefn a cherfluniau o'r Eidal.[1] Mae'r casgliad hwn hefyd yn cynnwys tecstiliau, arfau, arteffactau efydd, darnau arian a sguthrod eliffantod. Agorwyd y rhan hon o'r castell yn 1987.[2]

Y gerddi

Y gath Rufeinig[golygu]

Yn y prif goridor, ceir cerflun dwy fil o flynyddoedd oed o gath a neidr. Mae'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf neu'r ail O.C. Mae cerfluniau Rhufeinig o gathod yn hynod brin. Credir mai dyma'r unig esiampl o'i fath drwy'r byd, sydd wedi goroesi. Ceir dau gerflun arall o gathod: y naill o Pompeii a'r llall yn Amgueddfa'r Fatican, ond mae'r ddau yma'n wahanol gan eu bont yn darlunio cath yn ymosod ar dderyn.

Credir i Clive brynu'r darn marmor hwn yn anrheg i'w wraig pan ymwelodd â'r Eidal yn 1774. Mwyngloddiwyd y darn marmor o Ynys Thasos a cheir ynddo lawer o grisialau mawr, a oedd yn gwneud y gwaith o'i greu'n llawer anoddach.

Gweler hefyd[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]