Castell Oxwich

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Castell Oxwich

Lleolir Castell Oxwich ar benrhyn coediog ger pentref Oxwich sy'n edrych allan ar Fae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr, Cymru.

Er ei fod yn bosib fod y castell wedi ei adeiladu ar safle adeilad llawer hŷn, mae'r castell fel y mae heddiw yn enghraifft o blasdy Tuduraidd crand a adeiladwyd ar arddull cwrtiau. Fe'i adeiladwyd yn y 16eg ganrif gan Syr Rice Mansel er mwyn darparu llety moethus. Rhoddodd arfbais teuluol i'r castell ynghyd â ffug-borth milwrol. Gwelwyd gwaith Syr Rice yn y bloc deheuol yn unig a chwblhawyd y gwaith rhwng y 1520au a'r 30au. Pan fu farw Mansel, etifeddodd ei fab, Syr Edward Mansel yr adeilad a rhwng 1560-80 creodd adeilad llawer crandach gyda neuadd fawr ac oriel hir, a oedd yn nodwedd ffasiynol iawn ym mhensaernïaeth Oes Elizabeth. Mae'r tŵr chwe llawr i'r de-ddwyrain wedi goroesi tan heddiw a chredir yr arferai ddarparu llety i'r teulu a'r gweision. Pan adawodd y Mansels yn ystod y 1630au, adfeiliodd yr adeilad a defnyddiwyd rhan ddeheuol yr adeilad fel ffermdy.

Bellach mae'r adeilad yng ngofal Cadw.