Castell Gwallter

Oddi ar Wicipedia
Castell Gwallter
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.461537°N 4.029654°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCD005 Edit this on Wikidata

Castell mwnt a beili yng ngogledd-orllewin Ceredigion a godwyd gan y Normaniaid tua'r flwyddyn 1110 yw Castell Gwallter. Saif hanner milltir i'r gorllewin o bentref Llandre (Llanfihangel Genau'r Glyn).

Codwyd y castell yng nghwmwd Genau'r Glyn tua 1110 gan yr arglwydd Normanaidd Walter de Bec ac yn fuan cyfeiriwyd ato fel "Castell Gwallter". Mae Brut y Tywysogion yn cofnodi cyrch ar y castell ym 1136 gan Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr: llosgwyd y castell pren i'r llawr.

Cyfeirir mewn rhan arall o'r Brut at Hywel ab Owain Gwynedd yn symud ei brif lys yn y rhan honno o'r wlad i "Lanfihangel Castell Gwallter" (yr hen enw ar Llandre/Llanfihangel Genau'r Glyn) ym 1151, ond ni ellir gwybod bellach ai ar safle'r hen gastell ynteu ar safle arall yn yr ardal yr aeth ei lys.

Erbyn heddiw dim ond twmpath gwyrdd sydd yn weddill o'r hen gastell.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]