Castell Cyfarthfa

Oddi ar Wicipedia
Castell Cyfarthfa
Olion Castell Morlais
Mathplasty Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadY Parc Edit this on Wikidata
SirMerthyr Tudful
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr218 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7564°N 3.38969°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Plas, sydd yn awr yn amgueddfa, ger Merthyr Tudful yw Castell Cyfarthfa. Saif i'r gogledd o ganol Merthyr, yng nghymuned y Parc.

Adeiladwyd y plas yn 1824 i William Crawshay II, perchennog Gwaith Haearn Cyfarthfa. Saif mewn parc 158 acres (0.64 km2) o arwynebedd, ac roedd yn cynnig golygfeydd tarawiadol o Waith Haearn Cyfarthfa yr ochr arall i Afon Taf.

Cynlluniwyd yr adeilad gan y pensaer Robert Lugar, fu hefyd yn gyfrifol am lawer o bontydd rheilffordd yn yr ardal. Roedd cost yr adeilad yn £30,000 (yn cyfateb i £2,104,964.72 yn 2007). Mae wedi ei gynllunio i edrych fel castell canoloesol, gyda noweddion Normanaidd a Gothig; gellir cymharu Castell Penrhyn ger Bangor.

Mae'r castell yn amgueddfa ac oriel bellach, sy'n cael ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Oriel[golygu | golygu cod]