Castell Candleston
Oddi ar Wicipedia
Lleolir Castell Candleston ger pentref Merthyr Mawr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a glannau Môr Hafren.
Er gwaethaf ei enw, maenordy castellog ydyw yn hytrach na chastell fel y cyfryw, a adeiladwyd ar ddiwedd y 14eg ganrif. Cafodd ei adeiladwaith ei newid sawl gwaith rhwng y cyfnod hwnnw a dechrau'r 19eg ganrif pan roddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel preswylfa. Mae llawer o dir yr hen faenor wedi cael ei lyncu gan dywod y tywynni mawr a geir yma.
Tybir fod yr enw "Candleston" yn llurguniad o'r enw "Cantilupeston", a bod y castell yn eiddo i'r teulu de Cantilupe Cambro-Normanaidd (gweler Walter de Cantilupe).
Ceir nifer o gestyll Normanaidd eraill yn yr ardal, yn cynnwys Castell Ogwr.
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) Hanes a lluniau