Cas gan fwnci
| Cas gan fwnci | |
|---|---|
| Parc Cenedlaethol Lanin, yr Ariannin. | |
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Rhaniad: | Pinophyta |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Pinales |
| Teulu: | Araucariaceae |
| Genws: | Araucaria |
| Rhywogaeth: | A. araucana |
| Enw deuenwol | |
| Araucaria araucana (Molina) K. Koch |
|
| Cyfystyron | |
|
Araucaria imbricata |
|
Conwydden o Dde America sy'n perthyn i deulu'r Araucariaceae yw'r cas gan fwnci neu binwydden Chile (Araucaria araucana). Mae'n gynhenid i ganolbarth Chile a gorllewin yr Ariannin lle mae'n tyfu mewn pridd folcanig ar lethrau'r Andes a'r cadwyn Nahuelbuta. Mae'n goeden boblogaidd mewn parciau a gerddi yn rhanbarthau tymherus y byd.
Mae gan y goeden aeddfed foncyff hir a syth sy'n cyrraedd uchder o 30-50 medr. Mae coron o ganghennau ar dop y boncyff sy'n debyg i barasol. Mae'r dail yn wyrdd tywyll, pigog a lledraidd. Mae'r coed benywaidd yn cynhyrchu conau mawr a chrwn sy'n cynnwys 200 neu fwy o gnau. Mae conau'r coed gwrywaidd yn hirgul ac maent yn cynnwys paill.
Mae'r goeden yn bwysig i'r bobl Mapuche sy'n gwneud defnydd o'r pren, y resin a'r cnau bwytadwy. Defnyddiwyd y boncyffion i wneud hwylbrennau llongau yn y gorffennol. Coeden genedlaethol Chile yw'r cas gan fwnci.
Cyfeiriadau [golygu]
- Chester, Sharon (2008) A Wildlife Guide to Chile, A&C Black, Llundain.
- Johnson, Owen & David More (2004) Collins Tree Guide, Collins, Llundain.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) The Gymnosperm Database: Araucaria araucana
- (Sbaeneg) Chilebosque: Araucaria araucana