Cas-bach

Oddi ar Wicipedia
Cas-bach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5455°N 3.078°W Edit this on Wikidata
Cod OSST253835 Edit this on Wikidata
Cod postCF3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJayne Bryant (Llafur)
AS/auRuth Jones (Llafur)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Maerun, Casnewydd, Cymru, yw Cas-bach[1] (Saesneg: Castleton).[2] Saif i'r gorllewin o ddinas Casnewydd, hanner ffordd rhwng canol y ddinas hon a Chaerdydd. Y sillafiad yn 1536-9 oedd 'Castelle Behan'.[3]

Mae'r pentref yn lleoliad i hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol o'r un enw, heb y mur gwarcheidiol arferol, sef y “beili”. Lleoliad: Maerun, Casnewydd; cyfeiriad grid ST251834. Fe godwyd y rhan fwyaf o'r tomenni hyn yng Nghymru rhywdro rhwng degawdau olaf yr 11g ac ail hanner y 12g allan o bridd a charreg, gyda ffos o'u cwmpas fel rheol. Y Normaniaid ddaeth â'r math hwn o amddiffynfa o Ffrainc i wledydd Prydain a mabwysiadwyd y dechnoleg gan y Cymry. Fe'i cofrestrwyd gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: MM131 .[4]

Mae'r clwstwr mwyaf o'r tomennydd hyn drwy wledydd Prydain i'w weld yn ardal y gororau (neu'r Mers): sef Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd Henffordd, Powys a Sir y Fflint fel y caiff ei adnabod heddiw.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 13 Ebrill 2022
  3. Dictionary of the Place-Names of Wales; Gwasg Gomer (2007)
  4. Data Cadw
  5. "Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-25. Gwefan English Heritage; adalwyd 22/10/2010 (Saesneg)
Eginyn erthygl sydd uchod am Gasnewydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato