Caryl Lewis
| Caryl Lewis | |
|---|---|
| Geni | Caryl Lewis 7 Gorffennaf 1978[1] Penbedw, Lloegr, DU |
| Galwedigaeth | Nofelydd, sgriptiwr |
| Addysg | Ysgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Gyfun Aberaeron |
| Math o lên | Nofelau |
| Gwaith nodedig | Iawn boi?, Martha, Jac a Sianco, Y Gemydd |
| Gwobrau nodedig | Gwobr Tir na n-Og 2004, Llyfr y Flwyddyn 2005 |
Nofelydd Cymraeg llwyddianus yw Caryl Lewis. Fe'i magwyd yn Aberaeron cyn symud pan yn 12 oed yn ôl i’r fferm deuluol yn Nihewyd.
Aeth i Ysgol Gynradd Aberaeron ac Ysgol Gyfun Aberaeron, cyn mynd yn ei blaen i astudio ym Mhrifysgol Durham a Choleg Prifysgol Aberystwyth.
Yna aethi weithio yng Nghanolfan Ysgrifennu Cymru Tŷ Newydd ac i'r Academi Gymreig, cyn mentro i fyd cysylltiadau cyhoeddus lle bu'n gweithio fel sgriblwr.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Dal hi! yn 2003 - nofel i oedolion ifanc, ac yn 2004 cyhoeddodd Iawn boi? ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, ac aeth yn ei blaen i ennill Gwobr Tir na n-Og 2004.
Yn Nhachwedd 2004, cyhoeddodd Y Lolfa nofel nesaf Caryl sef Martha, Jac a Sianco. Dyma nofel i oedolion, sy'n sôn am ddau frawd a chwaer sy'n byw yng nghefn gwlad Ceredigion. Enillodd hon wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Mae'r llyfr hefyd wedi'i addasu i'r Saesneg gan Gwen Daviesac fe addaswyd ffilm deledu Gymraeg ohonni.
Mae Caryl bellach yn byw ar gyrion Aberystwyth.
Cynnwys |
Gwaith [golygu]
Llyfrau Oedolion [golygu]
- Dal Hi!, Mehefin 2003, (Y Lolfa)
- Martha, Jac a Sianco, Tachwedd 2004, (Y Lolfa)
- Trosiadau / Translations: Gwaliadir / Walesland, (Gyda Nigel Wells), Mawrth 2006, (Gwasg Gomer)
- Cyfres Stori Sydyn: Y Rhwyd, Chwefror 2007, (Y Lolfa)
- Y Gemydd, Mawrth 2007, (Y Lolfa)
- Martha, Jac & Shanco Addasiad Saesneg o Martha, Jac a Sianco, Medi 2007, (Y Lolfa)
- Naw Mis, Rhagfyr 2009, (Y Lolfa)
Llyfrau Plant [golygu]
- Cyfres Pen Dafad: Iawn Boi?;-), Hydref 2003, (Y Lolfa)
- Llyfrau Lloerig: Tric y Pic a Mics, Ebrill 2004, (Gwasg Gwynedd)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs a'r Pants Hud, Tachwedd 2004, (Y Lolfa)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs a'r Cynllun Hedfan, Tachwedd 2004, (Y Lolfa)
- Drws Arall i'r Coed, (Gwyneth Glyn Evans, Eurgain Haf Evans, Dyfrig Jones, Caryl Lewis, Manon Wyn), Chwefror 2005, (Sgript Cymru)
- Cyfres Pen Dafad: Sgwbidŵ Aur, Awst 2005, (Y Lolfa)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs: Seren y Rodeo, Tachwedd 2005, (Y Lolfa)
- Dramâu'r Drain: Arkies, Ionawr 2006, (Y Lolfa)
- Dramâu'r Drain: Yr Ysbryd, Ionawr 2006, (Y Lolfa)
- Cyfres Gwreichion: Ffit-Ffat yr Hwyaden, Mawrth 2006, (Gwasg Gomer)
- Cyfres Lleisiau: Bôrd, Mawrth 2006, (Canolfan Astudiaethau Addysg)
- Cyfres Whap!: Ffêc Tan, Rissole a Tships, Mawrth 2006, (Gwasg Gomer)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs a'r Gêm Bêl-droed, Mehefin 2006, (Y Lolfa)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs a'r Planedau, Mawrth 2007, (Y Lolfa)
- Cyfres y Teulu Boncyrs: Bili Boncyrs ar y Fferm, Ebrill 2007, (Y Lolfa)
- Cyfres Lleisiau: Bôrd Eto, Mai 2007, (Y Lolfa)
Dolenni allanol [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Cyfweliad Cyngor Llyfrau Cenedlaethol â Caryl Lewis. Adalwyd 20-06-2009