Carreg Coetan Arthur
- Gweler hefyd Coetan Arthur (gwahaniaethu).
Cromlech yw Carreg Coetan Arthur (hefyd Coetan Arthur; weithiau hefyd 'Carreg Coetan'), sy'n gorwedd mewn cae ger pentref Trefdraeth yn Sir Benfro. Cyfeiriad AO (map 145): SN 060394.[1]
Gweddillion siambr gladdu Neolithig ydyw. Ceir maen clo mawr sy'n cael ei gynnal gan ddau o'r pedwar maen sy'n dal i sefyll. Dim ond olion sy'n weddill o'r domen bridd a orchuddiai'r siambr. Ceir ambell garreg o'i gwmpas sy'n rhoi awgrym o siâp y beddrod gwreiddiol pan gafodd ei adeiladu yn Oes Newydd y Cerrig. Mae cynllun y meini yn awgrymu cysylltiad gyda dosbarth o siambrau claddu Neolithig yn Iwerddon y cyfeirir atynt yn Saesneg fel "portal dolmens".[2] Yn y cyfnod cynhanesyddol a dechrau'r cyfnod hanesyddol bu cysylltiadau cryf rhwng Dyfed a de-ddwyrain Iwerddon.
Mae Carreg Coetan Arthur yn un o sawl heneb a nodwedd ddaearyddol yng Nghymru a gysylltir â chylch y Brenin Arthur, ond does dim cysylltiad hanesyddol.
Mae'r gromlech yng ngofal Cadw a cheir mynediad dirwystr iddi gan y cyhoedd.