Carpiog llwydaidd

Oddi ar Wicipedia
Ennomos quercaria
Darlun allan o lyfr John Curtis: British Entomology; cyfrol 6
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Geometridae
Genws: Ennomos
Rhywogaeth: E. quercaria
Enw deuenwol
Ennomos quercaria
(Hübner, 1813)
Cyfystyron
  • Geometra quercaria Hubner, 1813
  • Eugonia angularia Denis & Schiffermüller, 1775
  • Ennomos carpinaria Hübner, 1799

Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Geometridae yn urdd y Lepidoptera yw carpiog llwydaidd, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy carpiogion llwydaidd; yr enw Saesneg yw Clouded August Thorn, a'r enw gwyddonol yw Ennomos quercaria.[1][2] O ran pryd a gwedd, mae'n eitha tebyg i'r Ennomos erosaria ond ychydig goleuach ei liw.

Mae i'w ganfod gan mwyaf yn ne Ewrop ond ceir cofnodion ohonon hefyd yng ngwledydd Prydain, er na ellir profi'r rhain yn gadarn, sef y naill yn y 19g a'r llall yn ne-ddwyrain Lloegr yn 1992. Mae'n bosib mai gwyfynod wedi'u mewnforio ac yna'u rhyddhau i'r gwyllt oedd y rhain yn hytrach nag enghreifftiau naturiol ohonynt.[3]

Lled adenydd yr oedolyn ar ei anterth ydy 28–35 mm ac fe'i gwelir yn hedfan rhwng Mehefin a Medi.

Mae'r siani flewog yn hoff o fwyta dail y dderwen.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r carpiog llwydaidd yn lindysyn sydd yn bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. Gwefan Saesneg UK Moths