Carn Menyn
Oddi ar Wicipedia
Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Carn Menyn, hefyd Carn Meini. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gogledd o bentref Mynachlog-ddu.
Ceir carnedd yma a allai fod yn siambr gladdu Neolithig. Cred rhai mai o Garn Menyn y daeth y cerrig gleision a ddenyddiwyd wrth adeiladu Côr y Cewri, er enghraifft Timothy Darvill a Geoff Wainwright yn 2005.