Carl Ransom Rogers

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Seicolegydd dylanwadol o Unol Daleithiau America oedd Carl Ransom Rogers (8 Ionawr, 19024 Chwefror, 1987).

Dechreuodd Rogers o Illinois ei yrfa fel offeiriad mewn eglwys fechan yn Vermont lle y dysgodd am bwysigrwydd creu perthynas gyda’r unigolyn. Trodd wedyn i ddarlithio yng Ngholeg Athrawon Prifysgol Colombia o dan ddylanwad syniadau John Dewey. Roedd damcaniaeth Rogers wedi tyfu allan o’r profiad fod bodau dynol yn dod i ymddiried yn fwyfwy unwaith y maent yn sylweddoli fod eu profiadau eu hunain yn cael eu parchu a’u deall gan y darlithydd. Roedd wedi nodi nifer o elfennau sy’n hwyluso dysgu sef:

  • Bod yr hwylusydd yn hollol ddidwyll ac yn berson go iawn yn ei berthynas gyda’r myfyrwyr. Hynny yw, nid yw'n ceisio cuddio y tu ôl i ddelwedd ond yn barod i fod eu hunain yn eu perthynas gyda’r myfyrwyr.
  • Gwerthfawrogi a pharchu barn a theimladau’r myfyrwyr ac yn ymddiried ynddynt. Deall adwaith y myfyrwyr o’r tu fewn gan fod yn ymwybodol o’r broses o addysgu o safbwynt y myfyrwyr.
  • Ond mae’n rhaid codi hyder y myfyrwyr yn aml yn ei gallu hwy eu hunain i addysgu eu hunain. Y cam cyntaf i’r cyfeiriad yma yw i ni ystyried fel rydym ni ein hunain wedi dysgu, sef drwy brofiad. Ers yn blant bychain rydym wedi dysgu drwy ein profiadau o fywyd, yn aml drwy’r profiad o wneud camgymeriadau i ddechrau!
  • Mae angen symud i ffwrdd o’r syniad sydd gennym fod y cyfrifoldeb am ein haddysgu yn gorwedd ar ysgwyddau’r darlithydd. Dylem ystyried y darlithydd fel un o’r adnoddau dysgu sydd gyda ni. Mae’r darlithydd yn arbenigedd mewn pwnc, ac mae yn gwybod sut i drefnu profiadau addysgol drwy'r gwersi i hwyluso’r dysgu. Ond yn y diwedd gyda’r myfyrwyr mae’r cyfrifoldeb i addysgu eu hunain.

Dywedodd yn ei lyfr Freedom to Learn (1993) :-

Gallwn ni ddim addysgu person arall yn uniongyrchol, dim ond hwyluso ei dysgu Y sefyllfa addysgol fwyaf effeithlon i hybu’r dysgu yw un lle mae’r “bygythiad” (neu ofn) i’r myfyriwr wedi ei leihau i’r isafswm posib Pan yr hwylusir y gwanhaol ffyrdd o ganfod ym maes profiad y myfyriwr unigol.

Gwaith y darlithydd yn y gyfundrefn hon yw hwyluso’r dysgu drwy greu profiadau addysgiadol. Ond rhaid i’r profiadau yma fod yn berthnasol i’r byd go iawn y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Os nad yw'r myfyrwyr yn gweld fod y gwersi yn berthnasol ni fyddant yn cael eu cymell i ddysgu. Un ffordd o wneud hyn yw drwy gael y myfyrwyr i ddatrys problemau. Mae datrys problemau yn broses weithredol. Pan ydym yn datrys problem mae’n rhaid i ni arbrofi gyda gwahanol atebion, mentro drwy ddewis un ateb fydd efallai yn gweithio. Neu wrth gwrs ambell waith nid oes modd datrys y broblem a rhaid do i dermau a hynny. Yn wahanol i ddysgu traddodiadol, nid oes angen gwerthuso allanol oherwydd rydym yn gwybod pa fo’r broblem wedi ei datrys yn iawn. Er bod yr ateb i broblem arbennig yn gallu cynhyrchu egwyddorion cyffredinol mae problemau fel arfer yn arbennig yn hytrach na haniaethol. Mae’r broses o ddatrys problemau yn canolbwyntio ar y broblem arbennig honno sydd yn berthnasol i’r myfyriwr.