Carl Clowes

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Carl Iwan Clowes)
Carl Clowes
Ganwyd11 Rhagfyr 1943 Edit this on Wikidata
Manceinion Edit this on Wikidata
Bu farw4 Rhagfyr 2021 Edit this on Wikidata
Pencaenewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, meddyg teulu, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
PlantCian Ciarán, Dafydd Ieuan Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Meddyg o Gymro oedd Dr Carl Iwan Clowes (11 Rhagfyr 19434 Rhagfyr 2021)[1]. Sefydlydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 i brynu ac adfywio yr hen bentref a sefydlu canolfan iaith yno.

Ganwyd a magwyd Clowes yn Manceinion, ei fam yn siaradwr Cymraeg a'i dad yn Sais. Pan dychwelodd ei rieni i ogledd Cymru ac fe aeth ati i ddysgu’r Gymraeg. Wedi cymhwyso’n feddyg yn 1967, treuliodd wyth mlynedd yn gweithio fel meddyg yn Llanaelhaearn yn Llŷn cyn ennill gradd Meistr mewn Meddygaeth Gymdeithasol o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.

Ef hefyd oedd cadeirydd cychwynnol Antur Aelhaearn, y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 1974 a gafodd ei sefydlu er mwyn achub yr ysgol leol, ac yn gadeirydd cychwynnol ac yn Llywydd Oes Dolen Cymru, y berthynas rhwng Cymru a Lesotho a gafodd ei sefydlu yn 1985.[1]

Cyhoeddodd gyfrol Nant Gwrtheyrn a gyhoeddwyd 15 Gorffennaf 2004 gan Y Lolfa.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a Dorothi ac mae ganddyn nhw bedwar o blant – Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian, y ddau fachgen yn gerddorion a oedd yn aelodau o Super Furry Animals.[3]

Bu farw yn ei gartref Llecyn Llon, Pencaenewydd yn 77 mlwydd oed. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd preifat i'r teulu yn unig yn Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr 2021 a rhoddwyd i orffwys ym Mynwent Llanaelhaearn, gyda gwasanaeth cyhoeddus o goffad a dathliad o'i fywyd yn Neuadd y Nant, Nant Gwrtheyrn am 2.00 o'r gloch.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Dr Carl Clowes wedi marw , Golwg360, 5 Rhagfyr 2021.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  3.  Hanesion dadlennol hunangofiant Carl Clowes. lleol.net.
  4.  Hysbysiad marwolaeth Dr Carl Iwan Clowes. Daily Post (11/12/2021).