Carinus

Oddi ar Wicipedia
Carinus
Ganwyd250 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farwGorffennaf 285 Edit this on Wikidata
Moesia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadCarus Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata
PriodUnknown, Unknown, Unknown, Unknown, Unknown, Unknown, Unknown, Unknown, Magnia Urbica Edit this on Wikidata
PlantNigrinian Edit this on Wikidata
Carino como Augusto

Marcus Aurelius Carinus (bu marw 285) oedd ymerawdwr Rhufain o 283 hyd Gorffennaf 285.

Carinus oedd mab hynaf yr ymerawdwr Carus, a gwnaeth ei dad ef yn llywodraethwr y rhan orllewinol o’r Ymerodraeth Rufeinig. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn y llwythi Almaenaidd oedd yn bygwth croesi Afon Rhein, ond yn fuan gadawodd yr ymgyrch i eraill a dychwelodd i Rufain, lle dywedir iddo fyw yn afradlon ac yn ofer. Dywedir iddo briodi naw o weithiau, gan wenwyno’r wraig flaenorol bob tro.

Wedi marwolaeth ei dad, daeth ef a’i frawd Numerian yn gyd-ymerodron. Roedd y milwyr oedd yn gwasanaethu yn y dwyrain dan Numerian yn mynnu cael dychwelyd i Ewrop, a llofruddiwyd Numerian yn Calcedonia. Cyhoeddodd y milwyr Diocletian yn ymerawdwr..

Gadawodd Carinus Rufain a theithiodd tua’r dwyrain gyda’i fyddin. Llwyddodd o orchfygu ymgeisydd arall am yr ymerodraeth, Marcus Aurelius Julianus, yna bu’n ymladd a milwyr Diocletian yn Moesia. Enillodd nifer o fuddugoliaethau, ond yna llofruddiwyd Carinus gan dribwn . Ymddengys fod Carinus wedi dechrau perthynas a gwraig y tribwn ar yr un diwrnod yr oedd ei gŵr wedi ennill buddugoliaeth iddo dros Diocletian yn Margus (Morava). Fodd bynnag mae rhai ffynonellau yn dweud mai Diocletian fu’n fuddugol yn Margas.

Rhagflaenydd:
Carus
Ymerawdwr Rhufain
283285
gyda Numerian
Olynydd:
Diocletian