Carcassonne (gêm fwrdd)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gêm fwrdd arddull Almaenig yw Carcassonne. Fe'i dyluniwyd gan Klaus-Jürgen Wrede a'i chyhoeddi yn 2000 gan Hans im Gluck mewn Almaeneg a Rio Grande Games yn Saesneg. Enillodd wobr Spiel des Jahres a'r Spiele Deutscher Preis yn 2001. Enwyd y gêm ar ôl y dref gaerog ganoloesol Carcassonne yn ne Ffrainc, sy'n ddinas enwog am ei muriau.

Sut i chwarae[golygu]

Rhan o fwrdd y gêm wedi sawl tro.

Mae'r bwrdd gêm yn dirwedd canoloesol a adeiladir gan y chwaraewyr wrth i'r gêm fynd yn ei blaen. Mae'r gêm yn dechrau gyda un teil tir wedi ei droi wyneb i fyny a'r 71 teilsen arall wedi eu troi wyneb i waered mewn pentwr. Ar bob tro bydd chwaraewr yn tynnu teilsen tir newydd ac yn ei osod ger teils sydd eisoes yn wynebu i fyny. Mae'n rhaid i'r teils newydd gael eu gosod mewn ffordd sy'n ymestyn nodweddion ar y teils mae'n ffinio: rhaid i ffyrdd gysylltu â ffyrdd, caeau i feysydd, a dinasoedd i ddinasoedd.

Mae'r gêm yn dod i ben pan fydd y teil diwethaf wedi cael ei osod. Pryd hynny, mae'r holl nodweddion (gan gynnwys caeau) yn sgorio pwyntiau i'r chwaraewyr sydd gyda'r mwyaf o ddilynwyr arnynt. Y chwaraewr gyda'r mwyaf o bwyntiau sy'n ennill y gêm.