Caradoc Evans
Oddi ar Wicipedia
Nofelydd a dramodydd yn yr iaith Saesneg oedd David "Caradoc" Evans (31 Rhagfyr, 1878 - 11 Ionawr, 1945). Roedd yn enedigol o bentref Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin a chafodd ei fagu yn Rhydlewis, Ceredigion. David Evans oedd ei enw bedydd ond ysgrifennai wrth yr enw Caradoc Evans. Bu'n ffigwr hynod ddadleuol a gyhuddwyd gan lawer o bardduo a dilorni'r Cymry Cymraeg a'u diwylliant, er bod beirniaid mwy diweddar yn tueddu i fod yn fwy gwerthfawrogol o'i waith fel llenyddiaeth.