Capten (pêl-droed)

Oddi ar Wicipedia
Band braich capten gyda slogan FIFA "My Game is Fair Play" arno

Aelod o dîm pêl-droed a ddewisir fel arweinydd y tîm ar y cae yw'r capten. Fel arfer, mae'r capten yn un o'r aelodau mwyaf profiadol y garfan, neu yn chwaraewr a all ddylanwadu'n gryf ar y gêm. Adnabyddir y capten ar y cae gyda defnydd o fand braich.

Cyfrifoldebau[golygu | golygu cod]

Dan rheolau'r Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA), rhaid i'r capten gystadlu yn y tafliad ceiniog cyn y cic gyntaf i benderfynu rhwng dewis pa gôl i'w ymosod yn y hanner cyntaf, neu i gymryd cic gyntaf y gêm. Bydd y gwrthwynebwyr yn cael y cic gyntaf neu ddewis gôl ar gyfer yr hanner cyntaf.[1] Nid oes statws uwch gan y capten dros y chwaraewyr eraill, ond mae'n gyfrifol am ymddygiad y tîm.[2]

Mae'r capten yn bwynt cyswllt rhwng y chwaraewyr a'r dyfarnwr ar y cae; fel arfer mae dyfarnwyr yn trafod ymddygiad chwaraewyr eraill gyda chapten eu tîm. Oddi ar y cae, mae'r capten fel arfer yn cynrychioli'r carfan mewn cyfweliadau a datganiadau i'r wasg; mae rhai clybiau pêl-droed yn penodi capten y clwb i gynrychioli'r clwb o safbwynt cysylltiadau cyhoeddus a phenodi capten arall i arwain y tîm ar ddiwrnod y gêm.

Is-gapten[golygu | golygu cod]

Penodir chwaraewr eraill i fod yr is-gapten i gymryd awennau'r capten os nad yw'n dechrau'r gêm, neu'n cael ei eilyddio neu'n cael ei anfon o’r cae. Fe fydd y capten yn drosglwyddo'r band braich i'r is-gapten wrth iddyn nhw'n gyfnewid. Mae Aaron Ramsey yn tueddol i fod is-gapten Cymru ar ôl Gareth Bale, y capten arferol. Weithiau, fe welir 3ydd capten (a mwy) os nad yw'r capten a'r is-gapten ar gael.[3]

Cristiano Ronaldo yn gwisgo band braich FIFA "Living Football" wrth chwarae dros Portiwgal yn 2018

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Law 8: The Start and Restart of Play". thefa.com (yn Saesneg). 2022. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2022.
  2. "Law 3: The Players". thefa.com (yn Saesneg). 2022. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2022.
  3. Jolly, Richard (30 Awst 2015). "Chris Smalling made Manchester United's third captain". ESPN (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.