Capel Sant Hilari, Dinbych

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Capel St Hilari, Dinbych)
Capel Sant Hilari
Mathcapel, safle archaeolegol, adfail eglwys, tŵr, tŵr eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1334 (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDinbych Edit this on Wikidata
SirDinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr131 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1818°N 3.41985°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE005 Edit this on Wikidata

Eglwys hynafol yn Ninbych yw Capel Sant Hilari. Fe'i codwyd tua'r flwyddyn 1300 fel capel i wasanaethu'r dref gaerog newydd a dyfodd o gwmpas Castell Dinbych. Fe'i cysegrwyd i Sant Hilari (Hilarius). Cyfeirnod OS (map 116): SJ 052659.

Dim ond y tŵr a rhan fach o'r mur gorllewinol sy'n dal i sefyll heddiw, mewn safle ar gyrion y dref ei hun. Dymchwelwyd gweddill yr adeilad yn 1923 am ei fod mewn cyflwr peryglus. Mae hen luniau a chynlluniau yn dangos y bu ganddo gorff eglwys (nave), braich ogleddol a changell gyda chladdgell oddi tano.[1]

Mae'r adfeilion a'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys. A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995), tud. 131.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]