Capel Coch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Capel Coch, Maenaddwyn)
Capel Coch
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3155°N 4.3136°W, 53.3°N 4.3°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanddyfnan Ynys Môn yw Capel Coch[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng nghanolbarth yr ynys ar ffordd gefn, i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r gorllewin o Benllech, ym mhlwyf eglwysig Llanfihangel Tre'r Beirdd.

Ceir ysgol gynradd yno, Ysgol Tŷ Mawr, yr ysgol leiaf ym Môn. Fymryn i'r dwyrain o'r pentref mae Cors Erddreiniog, sy'n Warchodfa Natur Genedlaethol.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Ar gwr Capel Coch, wedi ei ymgorffori mewn wal ar ymyl y ffordd ar ôl i'r lôn gael ei lledu rhai blynyddoedd yn ôl, ceir maen hir Maen Addwyn. Ceir hefyd weddillion hen felin wynt, Melin Llidiart.

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato