Capel Seion, Llanrhaeadr-ym-Mochnant

Oddi ar Wicipedia
Capel Seion
Mathcapel Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSeion Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanrhaeadr-ym-Mochnant Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr153.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8252°N 3.30401°W, 52.825255°N 3.304026°W Edit this on Wikidata
Cod postSY10 0JP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Capel yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, Cymru, yw Capel Seion. Ailadeiladwyd y capel Methodus hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y Mudiad Celf a Chrefft.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Agorwyd y capel gwreiddiol yn y flwyddyn 1834. Ychwanegwyd ystafelloedd dosbarth ar gyfer yr Ysgol Sul yn 1870. Yn 1892 ychwanegwyd tŷ capel ac adeilad ar wahân ar gyfer yr Ysgol Sul.[1]

Yn 1904 ailadeiladwyd adeilad y capel, wedi'i gynllunio gan y penseiri Shayler a Ridge o Groesoswallt. Mae'n gapel o waith carreg gyda tho o lechi yn arddull Gothig y Mudiad Celf a Chrefft.[1]

Dynodwyd Capel Seion yn adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i ystyrir "yn gapel Mudiad Celf a Chrefft arbennig o gain ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath yng Nghymru."[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.119–20

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 R. Scourfield, The Buildings of Wales: Powys (2013).