Cantre'r Gwaelod

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwlad a foddwyd gan y môr mewn chwedloniaeth Gymreig oedd Cantre'r Gwaelod neu Maes Gwyddno. Dywedid ei bod wedi ei lleoli yn yr hyn sydd yn awr yn Fae Ceredigion. Mae'n perthyn i ddosbarth rhyngwladol o chwedlau am diroedd boddedig, yn cynnwys y chwedl Lydewig am Kêr-Ys. O'r gyfrol Cymru Fu gan Isaac Foulkes y tardda'r chwedl gyfarwydd.

Yn ôl y chwedl, roedd Cantre'r Gwaelod yn wlad gyfoethog, oedd yn cael ei hamddiffyn rhag y môr gan gloddiau Sarn Badrig a llifddorau. Arglwydd Cantre'r Gwaelod oedd Gwyddno Garanhir, oedd yn teyrnasu yng Nghaer Wyddno.

Yn y fersiwn gynharaf o'r chwedl hon, sef fersiwn Llyfr Du Caerfyrddin, boddwyd y deyrnas oherwydd esgeulusdod morwyn-ffynnon o'r enw Mererid. Yn y fersiwn ddiweddarach, roedd y llifddorau yng ngofal Seithenyn. Meddwodd Seithenyn adeg gwledd, ac esgeulusodd gau'r llifddorau. O ganlyniad gorchuddiwyd Cantre'r Gwaelod gan y môr a boddwyd pawb o'r trigolion heblaw Gwyddno Garanhir ei hun. Yn ôl traddodiad llafar, o wrando'n ofalus iawn ar ddiwrnod tawel, gellir clywed o hyd sŵn y clychau'n canu - y clychau a genid i rybuddio pobl fod y llanw'n dod i fewn a'r llifddorau i'w cau.

Llenyddiaeth fodern[golygu]

J.J. Williams (1869-1954), y bardd a sgwennodd y gerdd enwog 'O dan y mor a'i donnau.... Ef hefyd oedd awdur Clychau Aberdyfi. Ceir cofnod yn y Mabinogi am y môr yn goresgyn y tir rhwng Cymru ac Iwerddon.[1]

Cadwyd ar gof a chadw yr englynion canlynol yn Llyfr Du Caerfyrddin (a sgwennwyd yn 1250)[2] sy'n cyfeirio at y digwyddiad:

Boddi Maes Gwyddno: Cymraeg Modern Boddi Maes Gwyddneu: Ffurf wreiddiol
Seithennin, saf di allan
ac edrycha ar ferw'r môr:
Maes Gwyddno a'i orchuddwyd
Seithenhin saw de allan.
ac edrychuir de varanres mor.
maes guitnev rytoes.
Boed felltigedig y forwyn
a'i gollyngodd wedi gwledd
tywalltwr ffynnon garw'r môr
Boed emendiceid y morvin
ae hellygaut guydi cvin.
finaun wenestir mor terruin.
Boed felltigedig y ferch
a'i gollyngodd wedi'r frwydr
tywalltwr ffynnon y môr diffaith.
Boed emendiceid y vachteith.
ae. golligaut guydi gueith.
finaun. wenestir mor diffeith
Gwaedd Mererid o uchelfan y gaer
at Dduw y'i cyfeirir.
arferol yw tranc mawr yn sgîl balchder.
Diaspad vererid y ar vann caer.
hid ar duu y dodir.
gnaud guydi traha trangc hir.
Gwaedd Mererid oddi ar uchelfan y gaer heddiw;
hyd at Dduw ei hymbil.
edifeirwch sy'n arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. y ar. van kaer hetiv.
hid ar duu y dadoluch.
gnaud guydi traha attreguch.
Gwaedd Mererid sy'n fy nghyffroi heno,
ac ni hwylusa (unrhyw) lwyddiant i mi.
cwymp sy'n yn arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. am gorchiut heno.
Ac nihaut gorlluit.
G. G. traha tramguit.
Gwaedd Mererid oddi ar gefn ceffyl gwinau hardd;
Duw hael a'i gwnaeth.
cyflwr anghenus sy'n arferol yn sgîl gormodedd
Diaspad mererid y ar gwinev kadir
kedaul duv ae gorev.
gnaud guydi gormot eissev.
Gwaedd Mererid sy'n fy ngorfodi heno
oddi wrth f'ystafell.
mae tranc pell yn arferol yn sgîl balchder.
Diaspad mererid. am kymhell heno
y urth uy istauell.
gnaud guydi traha trangc pell.
Bedd Seithennin aruchel ei feddwl
rhwng Caer Genedr a glan y môr:
arweinydd mor ardderchog (ydoedd)
Bet seithenhin synhuir vann
Rug kaer kenedir a glan.
mor maurhidic a kinran.

Ar un adeg, yn enwedig yn y cyfnod Mesolithig, roedd lefel y môr yn llawer is nag yw ar hyn o bryd, ac roedd yr hyn sy'n awr yn Fae Ceredigion yn dir sych. Ar waelod llanw anarferol o isel gellir gweld gweddillion coed ym Mae Ceredigion, yn enwedig gerllaw Borth ger Aberystwyth, ac efallai bod hyn wedi ysbrydoli'r chwedl. Yn 1770, dywedodd William Owen Pughe ei fod wedi gweld gweddillion aneddiadau dynol dan y môr tua pedair milltir o'r lan rhwng Afon Ystwyth ac Afon Teifi. Ceir traddodiad tebyg am Tyno Helyg oddi ar arfordir gogleddol Gwynedd.

Mae traddodiad y gellir clywed clychau Cantre'r Gwaelod yn canu dan y môr ar nosweithiau tawel, ac enwogwyd hyn yn y gân Clychau Aberdyfi.

Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. [Gwyddoniadur Cymru, Gwasg prifysgol Cymru, 2008]
  2. Gwefan y BBC; Adalwyd 03/03/2012

Llyfryddiaeth[golygu]

  • F. J. North, Sunken Cities (Caerdydd, 1957)
  • Meic Stephens (gol.) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)