Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant

Oddi ar Wicipedia
Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
LibretyddMererid Hopwood Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af8 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
CyfansoddwrKarl Jenkins Edit this on Wikidata


Yr albwm: Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant (Deutsche Grammophon GmbH, Berlin; 2016).[1]

Cyfansoddiad corawl a grëwyd gan Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood i goffáu hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan yw Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant.[2]

Cafodd y cyfansoddiad ei gomisiynu gan S4C, ac fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm ar 8 Hydref, 2016 a'i ddarlledu ar S4C ar 9 Hydref 2016. Ymysg cyfranwyr i'r perfformiad cyntaf oedd: Bryn Terfel, Elin Manahan Thomas, Catrin Finch, David Childs, a'r feiolinydd Joo Yeon Sir.[3]

Yn ogystal â chofio'r drychineb Gymreig a'i chanlyniadau, mae hefyd yn ymdrin â galaru colli plant mewn erchyllterau eraill, megis Dunblane (1996); gwarchae ysgol Beslan (2004); trychineb fferi Corea (2014) a chyflafan Ysgol Peshawar (2014).[4]

Ar 23 Mawrth 2017 enillodd Maerid Hopwood a Syr Karl Jenkins gwobr arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant am gyfansoddi Cantata Memoria[5].

Traciau[golygu | golygu cod]

Traciau -

01. Pitran, patran

02. Then Silence

03. Cortège

04. Lament for the Valley

05. Lacrimosa Lullaby

06. Did I hear a bird?

07. Satin Feathers

08. And-a-half

09. And one upon a time

10. When the shadow dies

11. Lux aeterna.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ffotograff clawr yr Albwm gan Mark Owen (Trevillion Images).
  2. Cantata Memoria: gwaith “mwyaf emosiynol” Syr Karl Jenkins s4c.cymru; adalwyd 23 Hydref 2016.
  3. 50th anniversary of the Aberfan disaster to be marked by all-star commemorative concert in Cardiff www.walesonline.co.uk; adalwyd 23 Hydref 2016.
  4. Karl Jenkins commemorates Aberfan in Cantata Memoria Archifwyd 2018-12-24 yn y Peiriant Wayback. boosey.com; adalwyd 23 Hydref 2016.
  5. Llywodraeth Cymru - Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2017[dolen marw]
  6. Karl Jenkins, Cantata Memoria[dolen marw]; na-nog.com; adalwyd 23 Hydref 2016.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato