Canolfan Maendy

Oddi ar Wicipedia
Canolfan Maendy
Mathlleoliad chwaraeon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4968°N 3.19°W Edit this on Wikidata
Map

Canolfan hamdden yn ardal Maendy, ger Cathays, Caerdydd, yw Canolfan Maendy, a adnabyddwyd gynt fel Stadiwm Maendy, mae'n cynnwys trac seiclo a phwll nofio dan do. Defnyddiwyd y trac seiclo yn Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad 1958 ac agorwyd y pwll nofio yn 1993.[1]

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Stadiwm Maendy, tua 1960
...ac yn 2008.

Nid yw'r trac seiclo 460 medr o hyd dan do, ond mae llifoleuadau yn galluogi defnyddio'r trac gyda'r hwyr, yn enwedig yn y gaeaf. Mae'n adnabyddus am fod ychydig yn anwastad, achoswyd hyn gan ymsuddiant, gan yr adeiladwyd ar safle hen domen sbwriel. Ar un adeg roedd trac rhedeg colsyn â chwe lôn wedi ei leoli o fewn y trac seiclo, ond tynnwyd hwn a'i ddisodli gan faes pêl-droed maint llawn.[1] Roedd cryn nifer o seddi ac ardal wedi ei orchuddio a blwch beirniaid yn yr 1960au, erbyn hyn mae llethr wedi ei orchuddio gyda glaswellt tu ôl i ran syth cefn y trac.[2] Y pryd hynnu, lleolwyd y llinell orffen ar yr ochr cyferbyniol iw lleoliad presennol.

Pwll Nofio Maendy

Mae Maendy ynh parhau i gael ei ddefnyddio'n helaeth ar gyfer ymarfer a rasio ac yn gartref i nifer o ddigwyddiadau megis y Cardiff International Grand Prix.[3] Defnyddir yn arbennig ar gyfer hyfforddi plant ifanc i reidio beiciau ac i reidio ar drac. Mae'n 460 medr o hyd oamgylch y llinell datum a gyda llethrau 25 gradd ym mhob pen,[4] felly nid yw mor serth a'r rhan helaeth o draciau, ac felly'n berffaith ar gyfer dysgu. Mae'r arwyneb asffalt (concrid gynt), yn galluogi i'r trac gael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi a rasio gyda beiciau ffordd yn ystod y gaeaf, yn hytrach na beiciau trac.

Cafodd y trac wyneb newydd yn gymharol ddiweddar, a disodlwyd y wyneb adnabyddadwy coch gyda asffalt du,[4] daeth yr arian ar gyfer gwneud hyn o gronfa goffa Eddie Smart.

Sefydlwyd clwb seiclo plant y Maindy Flyers er mwyn hybu a chefnogi seiclo ar gyfer plant ac mae'r clwb wedi ei seilio yn y stadiwm. Mae rhai o gyn-aelodau'r clwb yn cynnwys y seiclwr proffesiynol Cymreig, Geraint Thomas. Cynhaliwyd Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Prydain yno yn 2007, a bu rhai o gyn-aelodau'r clwb yn fuddugol, daeth Alex Greenfield a Katie Curtis yn ail ac yn drydydd, a daeth Matthew Rowe yn drydydd ym mhencampwriaeth y dynion.

Mae pwll nofio 25 medr o hyd gyda 6 lôn yng Nghanolfan Maendy. Agorwyd hwn yn 1993. Mae hefyd maes pêl-droed pump bob ochr.[1]

Cynhaliwyd gemau paffio yn Stadiwm Maendy rhwng Mai 1935 a Gorffennaf 1963.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Maindy Centre. Cardiff Council.
  2.  Photo of Cardiff, Maindy Stadium c1960. Francis Frith.
  3.  2008 Track Major Events Calendar. British Cycling (11 Ionawr 2008).
  4. 4.0 4.1  Bicycle Tracks & Velodromes. Bike Cult (25 Gorffennaf 2005).
  5.  Maindy Stadium, Cardiff, Wales, United Kingdom. BoxRec (2 Ebrill 2011).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]