Canolfan Deledu y BBC
Pencadlys deledu'r BBC yn White City yng ngorllewin Llundain yw Canolfan Deledu y BBC. Cafodd ei hagor yn swyddogol ar 29 Mehefin 1960 a dyma oedd un o'r adeiladau cyntaf yn y byd ar gyfer cynhyrchu a darlledu rhaglenni teledu. Mae'n parhau i fod yn un o'r canolfannau mwyaf o'i math.
Daw'r rhan fwyaf o gynnyrch teledu cenedlaethol a rhyngwladol y BBC o'r Ganolfan Deledu, yn ogystal â Radio 5 Live ac ers 1998, y mwyafrif o raglenni newyddion y gorfforaeth. Yn 2011 bydd yr adrannau radio a theledu'n symud i Broadcasting House yng nghanol Llundain, fel rhan o ad-drefnu cyfleusterau'r BBC. Ar 21 Medi 2010, cyhoeddodd Cyfarwyddwr Gweledigaeth y BBC, Jana Bennett, y byddai'r BBC yn stopio darlledu o Ganolfan Deledu'r BBC yn 2013.[1]
Am fod yr adeilad wedi bod yn gefnlen i nifer o raglenni'r BBC dros y blynyddoedd, fe'i ystyrir yn un o'r cyfleusterau hawsaf i'w adnabod unrhyw le.
Yn sgîl cynnydd sydyn ym mhrisiau adeiladau yn yr ardal leol, a achoswyd gan y ganolfan siopa arfaethedig Westfield, ystyriwyd fod yr adeilad mewn perygl. Mae bellach wedi cael ei amddiffyn rhag cael ei ddymchwel. Mewn cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2009 am y bwriad i amddiffyn yr adeilad, dywedodd gweinidog pensaernïaeth y llywodraeth Barbara Follett mai yno y crëwyd rhaglenni megis Doctor Who, Fawlty Towers a Blue Peter am y tro cyntaf. "It has been a torture chamber for politicians, and an endless source of first-class entertainment for the nation—sometimes both at the same time."[2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ BBC1 to go live for coronation anniversary night in 2013 The Guardian, 21 Medi 2010
- ↑ 10 Gorffennaf 2009 (10 Gorffennaf 2009). Grade II listing for BBC Television Centre. Building Design.